Cyngor a Chymorth
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yma i'ch helpu i ddeall sut mae'r ddeddf cydraddoldeb yn gweithio, a sut y gall fod yn berthnasol i'ch sefyllfa. Er y gall y ddeddf ymddangos yn gymhleth , mae 3 maes pwysig i'w hystyried , ac mae'r adran hon yn rhoi arweiniad defnyddiol i'ch helpu i ddeall sut y gall y maesydd hyn fod yn berthnasol i'ch sefyllfa.
- Cam 1 - Nodwedd Warchodedig - Meddyliwch am hyn fel 'PAM' eich bod yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu. Efallai ei fod oherwydd eich oedran, neu anabledd, neu oherwydd eich hil? Mae 9 nodwedd i gyd wedi eu gwarchod gan y ddeddf. Mae manylion ac enghreifftiau wedi eu darparu i’ch helpu i ddewis yr un cywir.
- Cam 2 - Sector - Meddyliwch am hyn fel 'BLE' yn eich barn chi y digwyddodd y gwahaniaethu. Efallai y digwyddodd yn y Gwaith, neu mewn Addysg. Mae manylion ac enghreifftiau wedi cael eu darparu, ynghyd ag unrhyw Eithriadau a all fod yn berthnasol o dan amgylchiadau penodol.
- Cam 3 - Ymddygiad Gwaharddedig - Meddyliwch am hyn fel 'SUT' rydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu. Efallai bod y gwahaniaethu yn benodol i chi fel unigolyn (Gwahaniaethu Uniongyrchol, neu yn berthnasol i grŵp ehangach (Gwahaniaethu Anuniongyrchol). Mae'r ddeddf yn cwmpasu amrywiaeth o ymddygiad sydd wedi eu gwahardd. Mae manylion ac enghreifftiau wedi cael eu darparu, ynghyd ag unrhyw ofynion a fydd yn rhaid bodloni i’r ddeddf fod yn berthnasol.
Rydym yn deall y gall y ddeddf fod yn anodd ei deall, felly os ydych yn ansicr neu angen cyngor pellach ar unrhyw bryd, yna rydym yma i helpu. Mae gennym fwy o wybodaeth ar gael yn yr adran Adnoddau, neu gallwch ffonio ein llinell gymorth ar y rhif rhadffôn ar waelod y dudalen hon.
Cam 1: Dewisiwch 'Nodwedd Warchodedig'
-
Mae oedran yn cael ei ddiffinio yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) drwy gyfeirio at grŵp oedran y person.
Yn y Ddeddf, mae cyfeiriad at berson hefo nodwedd warchodedig yn golygu person o grŵp oedran arbennig.
Lle mae'r Ddeddf yn cyfeirio at bobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig oedran, mae'n golygu pobl sydd yn yr un grŵp oedran.
‘Gall 'grŵp oedran' olygu pobl o'r un oed neu bobl o fewn yr un ystod oedran. Gall grwpiau oedran fod yn eang (e.e. pobl o dan 50 oed; rhai o dan 18 oed) a gallant hefyd fod yn gul (e.e. pobl yn eu canol-30au, pobl a anwyd yn 1966).
Mae diffiniad 'grŵp oedran' wedi ei fwriadu i fod yn hyblyg, a bydd ei ddiffiniad yn aml yn dibynnu ar yr amgylchiadau o amgylch unrhyw driniaeth wahaniaethol honedig. Er enghraifft, gall person 55 oed fod yn perthyn i’r grwpiau oedran canlynol:
- Pobl yn eu 50au
- Pobl canol-oed
- Pobl dros 45
- Pobl o dan 60
- Pobl o oedran gweithio
- Pobl 55 oed
- “Baby Boomers”
- Gweithwyr hŷn
Enghraifft: Gallai gweithiwr gwrywaidd 25 oed gael ei weld fel rhannu nodwedd warchodedig oed gyda nifer o grwpiau oedran gwahanol. Gallai'r rhain gynnwys pobl ifanc 25 oed; rhai o dan 30, rhai dros 20 a gweithwyr iau.
Enghraifft: Gallai benyw rhannu'r nodwedd warchodedig o oedran gyda'r grwpiau canlynol: pobl 86 oed, pobl dros 60, pobl dros 65 oed, pensiynwyr, pobl hŷn, a'r henoed.
-
Mae’r Ddeddf Gydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn diffinio person anabl fel rhywun hefo:
“nam corfforol neu feddyliol sydd yn cael effaith andwyol sylweddol a hir dymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol dydd-i-ddydd”.
Pobl y bernir yn anabl yn awtomatig
Ni fydd rhaid i rai pobl gwrdd â'r diffiniad o anabledd gan fod y Ddeddf yn dosbarthu pobl gyda rhai namau yn anabl yn awtomatig, a felly diogelir nhw gan y Ddeddf.
Mae’r Ddeddf yn dweud bod person hefo canser, haint HIV neu sglerosis ymledol (MS) yn berson hefo anabledd. Golygai hyn fod pobl hefo’r fath nam yn cael eu cynnwys o adeg y diagnosis, a nid oes angen iddynt ddangos bod effeithiau’r canser, haint HIV neu MS yn cael effaith andwyol sylweddol a hir dymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi fod person wedi ei ardystio yn ddall, hefo nam difrifol ar eu golwg, neu yn rhannol ddall gan offthalmolegydd yngynghorol yn cael eu cynnwys fel person anabl.
Namau eithredig
Yn yr un modd at y ffaith bod rhai namau cael eu hystyried yn awtomatig yn anableddau, mae’r Ddeddf hefyd yn rhagnodi namau penodol nad ydynt yn cael eu hystyried fel anabledd. Mae'r amodau hynny fel a ganlyn:-
- Caethineb i, neu ddibyniaeth ar, alcohol, nicotin neu unrhyw sylwedd arall;
- rhinitis alergaidd tymhorol (e.e. clefyd y gwair);
- tuedd i gynnau tanau, dwyn neu gam-drin pobl eraill yn gorfforol neu yn rhywiol;
- arddangosiaeth; neu
- voyeuriaeth
Ystyr nam gorfforol neu meddyliol
Bydd yn rhaid i’r person gael nam gorfforol neu meddyliol. Nid oes angen ystyried sut y cafodd y nam gorfforol neu meddyliol ei achosi ac efallai ni fydd angen categoreiddio nam fel bod yn gorfforol neu meddyliol.
Ystyr effaith andwyol sylweddol
Yr ail elfen o'r diffiniad o anabledd yw bod rhaid i effaith y nam corfforol neu feddyliol gael ei ystyried i fod yn sylweddol. Mae'r Ddeddf yn datgan y bydd yr effeithiau andwyol a achosir gan nam yn cael eu hystyried yn sylweddol os yw'r effeithiau yn fwy na mân neu ddibwys.
Wrth ystyried a yw effeithiau nam yn andwyol a sylweddol dylid rhoi sylw i'r ffactorau perthnasol canlynol
- Faint o amser mae’n cymeryd y person i gyflawni gweithgaredd dydd i ddydd;
- Y ffordd mae’r gweithgaredd yn cael ei gyflawni;
- Effeithiau cronnus y nam;
- Y modd y gall ymddygiad gael ei addasu yn rhesymol i atal neu leihau effeithiau’r nam;
- Effeithiau yr amgylchedd; ac
- Pan fydd nam yn cael ei drin hefo triniaeth neu gywiriad, effeithiau’r nam fel y buasai oni bai am y driniaeth neu gywiriad
Enghraifft : Mae dyn yn gweithio mewn warws, yn llwytho a dadlwytho stoc trwm. Mae'n datblygu cyflwr calon hir-dymor ac nad oes ganddo’r gallu i godi neu symud eitemau trwm stoc yn y gwaith. Nid yw codi a symud eitemau trwm o'r fath yn weithgaredd arferol o ddydd-i-ddydd . Fodd bynnag, nid yw chwaith yn gallu codi, cario neu symud gwrthrychau gymedrol drwm bob dydd fel cadeiriau, yn y gwaith neu yn y cartref. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar weithgaredd arferol o ddydd-i-ddydd . Mae'n debygol o gael ei ystyried yn berson anabl at ddibenion y Ddeddf. (Deddf Cydraddoldeb 2010 , Nodiadau Esboniadol )
Enghraifft: Mae gan blentyn deg oed barlys yr ymennydd . Mae'r effeithiau yn cynnwys anystwythder y cyhyrau, cydbwysedd gwael a symudiadau heb eu cydlynu. Mae'r plentyn yn dal i allu gwneud y rhan fwyaf o bethau ar gyfer ei hun, ond yn blino yn hawdd iawn ac mae'n anoddach iddo gyflawni tasgau fel bwyta ac yfed, ymolchi a gwisgo. Er ei fod ganddo'r gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd fel y rhain, mae popeth yn cymryd mwy o amser o gymharu â phlentyn o oedran tebyg heb barlys yr ymennydd . Mae hyn yn cyfateb i effaith andwyol sylweddol. (Deddf Cydraddoldeb , Swyddfa Materion Anabledd)
Ystyr hir dymor
Y drydedd elfen o’r diffiniad o anabledd yw bod rhaid i'r nam corfforol neu feddyliol fod yn hir-dymor. Mae'r Ddeddf yn datgan bod nam yn cael ei ystyried yn hir-dymor os yw'r amhariad:-
- Wedi para o leiaf 12 mis;
- Yn un ym mhle mae’r cyfnod cyfan mae’r nam yn barhau, o’r amser y cychwynir, yn debygol o fod o leiaf 12 mis; neu
- Yn debygol o barhau am weddill bywyd y person sydd wedi ei effeithio
Wrth ystyried a yw nam yn debygol o barhau am 12 mis, dylai’r term ‘tebygol’ cael ei ddehongli i olygu ei fod yn fwy tebygol y bydd y nam yn para 12 mis, na ei fod yn debygol na fydd y nam yn parhau am 12 mis.
Wrth ystyried os yw nam yn hir dymor, dylid ystyried effeithiau ailddigwydd y nam. Mewn amgylchiadau lle, o ganlyniad natur y cyflwr, bydd yr effaith sylweddol andwyol ar allu y person i gyflawni gweithgareddau arferol dydd-i-dydd yn peidio, ystyried yr effaith sylweddol andwyol fel ei fod yn parhau os yw yn debygol o ailddigwydd, hefo ‘tebygol’ yn golygu y gallai’r effeithiau sylweddol andwyol ailddigwydd. Fodd bynnag, bydd angen ystyried tebygolrwydd ailddigwydd hefo beth y gellir disgwyl yn rhesymol i berson ei wneud i atal ailddigwyddiad.
Enghraifft: Mae dynes sydd wedi cael arthritis gwynegol am y tair blynedd diwethaf ac mae hi'n cael anhawster cynnal gweithgareddau o ddydd i ddydd fel cerdded, ymgymryd â thasgau cartref, ymolchi a gwisgo. Mae'r effeithiau yn benodol o wael yn ystod yr hydref a'r gaeaf pan fydd y tywydd yn oer ac yn llaith. Mae’r symptomau'n ysgafn yn ystod misoedd yr haf. Mae'r effaith ar y gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd-i-ddydd yn amrywio yn ôl y tywydd, ond oherwydd bod effaith y nam yn debygol o ddigwydd eto, buasai’r person hwn yn bodloni'r gofyniad o’r ystyr 'tymor hir' yn y diffiniad o anabledd.
Ystyr gweithgareddau dydd-i-ddydd
Nid yw’r Ddeddf yn diffinio, a nid yw’n bosibl i ddarparu rhestr gynhwysfawr, o beth caiff ei ystyried fel gweithgaredd dydd-i-ddydd. Fodd bynnag, dyler cymeryd sylw o’r egwyddorion canlynol:-
- Ni fwriedir i’r term gweithgareddau arferol dydd-i-ddydd gynnwys gweithgareddau sydd yn arferol i berson penodol yn unig, neu i grŵp bychain o bobl;
- Nid oes raid i weithgaredd arferol dydd-i-dydd fod yn un sydd yn cael ei wneud gan y rhan fwyaf o bobl;
- Gellai fod yn weithgaredd dydd-i-dydd hyd yn oed os yw yn un sydd yn cael ei wneud yn bennaf gan rhyw benodol
- Ni fydd rhai gweithgareddau yn cael eu dosbarthu fel gweithgareddau dydd-i-ddydd pan fyddynt yn arbenigol neu benodol i fath arbennig o waith, hobi, chwaraeon neu adloniant; fodd bynnag, gellir dosabarthu gweithgareddau sydd yn gyffredin i amrywiaeth eang o waith, hobi, chwaraeon neu adloniant, er engraifft (on nid yn gyfyngedig i) eistedd, sefyll, cerdded, ysgrifennu, siarad, teipio a chodi a symud gwrthrychau arferol fel gweithgareddau dydd-i-ddydd.
- Nid oes rhaid i nam i atal rhywun yn uniongyrchol o gyflawni gweithgaredd dydd-i-ddydd. Mae'n ddigon bod y nam yn cael effaith sylweddol ar sut cyflawnir, neu am faint o amser a gymerir i gyflawni y weithgaredd dydd-i-ddydd
Enghraifft: Mae menyw ifanc wedi datblygu colitis, clefyd llidiol o’r coluddyn. Mae'r cyflwr yn un cronig sy'n debygol ddigwydd eto ac i achosi “flare-ups”. Yn ystod “flare-up” mae hi’n dioddef poen yn y bol a pyliau o ddolur rhydd difrifol. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn iddi deithio neu fynd i weithio. Mae hyn yn cael effaith andwyol sylweddol ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd-i-ddydd. Bydd hi yn debygol o gael ei ystyried yn berson anabl at ddibenion y Ddeddf. (Deddf Cydraddoldeb 2010, Nodiadau Esboniadol)
Anabledd yn y gorffennol
Bydd person sydd ddim yn anabl rwan, ond y byddai wedi bodloni gofynion y diffiniad o anabledd yn y gorffennol, yn dal i gael eu cwmpasu gan y Ddeddf.
Er mwyn cael eu cynnwys byddai'n rhaid i berson ddangos pryd amlygir eu nam y byddai wedi bodloni'r diffiniad o anabledd.
Yn ogystal, bydd unrhyw berson sydd hefo eu enw ar y gofrestr o bobl anabl o dan ddarpariaethau y Ddeddf 1944 Personau Anabl (Cyflogaeth) yn cael eu cyfri fel un sydd wedi cael anabledd yn y gorffennol.
Cyflyrau cynyddol
O dan y Ddeddf bydd person hefo cyflwr cynyddol, megis (ond dim yn gyfyngedig i) erythmatosis systemig lwpws, gorddryswch, arthritis gwynegol a chlefyd niwronau motor, yn cael eu ystyried fel cael nam sydd hefo effaith sylweddol andwyol ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol dydd-i-ddydd cyn iddo gael yr effaith.
O dan y Ddeddf, ystyried person sydd â chyflwr cynyddol i gael nam sy'n cael effaith andwyol sylweddol ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd cyn iddo wneud hynny.
Bydd effeithiau’r cyflwr cynyddol yn cael eu ystyried i gael effaith sylweddol andwyol o’r pwynt ym mhle y mae’n dechrau i gael effaith ar allu’r person i gyflawni gweithgareddau arferol dydd-i-dydd, cyn bellad a bod yr effaith yn debygol o fod yn sylweddol rhyw bryd yn y dyfodol (hefo ‘tebygol’ eto yn golygu y gallai ddigwydd).
Anffurfiadau difrifol
Mae’r Ddeddf yn datgan pryd bydd y nam yn cynhwys anffurfiad difrifol, mae’n cael ei ystyried fel cael effaith sylweddol andwyol ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol dydd-i-dydd; nid oes angen dangos bod yr anffurfiad difrifol wedi cael y fath effaith mewn gwirionedd.
Am ganllawiad manwl pellach ac am enghreifftiau eglurhaol, gweler y "Deddf Cydraddoldeb 2010 - Canllawiau ar faterion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar gwestiynau yn ymwneud â'r diffiniad o anabledd" a gyhoeddwyd gan y Swyddfa dros Faterion Pobl Anabl.
http://odi.dwp.gov.uk/docs/wor/new/ea-guide.pdf
Nodiadau Esboniadol
-
Mae’r Ddeddf Gydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn dweud bod nodwedd gwarchodedig Priodas a Phartneriaeth Sifil os ydynt wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.
O dan y Ddeddf mae pobl sydd wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil yn rhannu y nodwedd warchodedig o Briodas a Phartneriaeth Sifil.
Nid oes gan bobl sengl neu bobl sydd heb briodi y nodwedd warchodedig o Briodas a Phartneriath Sifil
Ni fyddai pobl sydd yn bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil, neu sydd wedi ysgaru neu diddymu eu partneriaeth sifil hefo’r nodwedd warchodedig o Briodas a Phartneriaeth Sifil
Enghraifft: Nid yw person wedi ysgaru neu person sydd wedi diddymu eu partneriaeth sifil yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac felly nid oes ganddynt y nodwedd warchodedig.
Mae ‘Priodas’ yn cyfeirio at undeb ffurfiol rhwng dyn a dynes sydd wedi ei gydnabod yn gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig
Mae ‘Partneriaeth Sifil’ yn cyfeirio at bartneriaethau sifil sydd wedi eu cofrestru o dan y Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 ac hefyd yn cynnwys partneriaethau sifil sydd wedi eu cofrestru tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Enghraifft: Mae cyflogwr yn cynnig manteision 'marwolaeth mewn gwasanaeth' i wŷr, gwragedd a phartneriaid sifil eu haelodau staff. Mae gweithiwr sy'n byw gyda'i phartner, ond nid yw'n briod ag ef, yn awyddus i'w am budd-daliadau marwolaeth mewn gwasanaeth. Mae hi'n darganfod na all hi wneud hyn gan nad yw yn briod. Oherwydd nad yw bod yn gydbreswylydd yn nodwedd warchodedig, ni fyddai'n gallu gwneud hawliad o wahaniaethu. (Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cod Ymarfer)
-
Mae’r Ddeddf Gydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn nodi bod Beichiogrwydd a Mamolaeth yn nodwedd warchodedig. Mae'r Ddeddf yn ymestyn diogelwch i gwmpasu gwahaniaethu mewn perthynas â swyddogaethau cyhoeddus, addysg a chymdeithasau, lle nad oedd diogelwch o'r fath yn bodoli yn flaenorol.
O dan ddarpariaethau Gwaith y Ddeddf mae menyw wedi ei gwarchod rhag wahaniaethu oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth os yw’r gwahaniaethu yn digwydd o fewn y ‘cyfnod warchodedig’.
Mae'r cyfnod gwarchodedig yn dechrau pan fydd menyw yn dod yn feichiog ac yn parhau tan ddiwedd ei habsenoldeb mamolaeth neu nes iddi ddychwelyd i weithio os yw hynny'n gynharach.
Gall y cyfnod gwarchodedig mewn perthynas â'r beichiogrwydd hefyd dod i ben am nifer o resymau, er enghraifft pan fydd yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl rhoi genedigaeth, os yw hynny'n gynharach. Y mater arall i'w gofio yw os yw'r driniaeth anffafriol yn y gwaith yn digwydd y tu allan i'r cyfnod gwarchodedig gall hyn gael ei ystyried fel gwahaniaethu ar sail rhyw.
Enghreifftiau:
- Ni ddylai cyflogwr israddio neu ddiswyddo cyflogai, neu wadu cyfleoedd hyfforddiant neu dyrchafiad iddi oherwydd ei bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth.
- Ni ddylai cyflogwr gymryd i ystyriaeth cyfnod absenoldeb gweithiwr oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd wrth wneud penderfyniad am ei chyflogaeth. (Deddf Cydraddoldeb 2010, Nodiadau Esboniadol)
Mae Beichiogrwydd a Mamolaeth hefyd yn nodwedd warchodedig berthnasol o dan y darpariaethau tu allan i waith y Ddeddf, hy o dan darpariaethau Gwasanaethau a Swyddogaethau Cyhoeddus, Adeiladau; Addysg, a Cymdeithasau.
Enghreifftiau:
- Ni ddylai perchennog caffi ofyn i fenyw feichiog adael ei gaffi am ei bod yn bwydo baban o’r fron.
- Ni ddylai siopwr wrthod gwerthu sigarennau i fenyw oherwydd ei bod yn feichiog.
- Ni ddylai ysgol atal disgybl rhag sefyll arholiad oherwydd ei bod yn feichiog.
(Deddf Cydraddoldeb 2010, Nodiadau Esboniadol)
Am fwy o wybodaeth ar wahaniaethu oherwydd Beichiogrwydd a Mamolaeth mewn sefyllfaoedd gwaith a tu allan i waith, cliciwch “Dewisiwch” yn uchod.
-
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) mae diffiniad Hil yn cynnwys:-
- lliw
- cenedligrwydd
- tarddiad ethnig neu genedlaethol
Mae’r Ddeddf yn nodi bod person hefo’r nodwedd warchodedig o hil os ydynt yn perthyn i grŵp hiliol. Mae’r Ddeddf yn diffinio grŵp hiliol fel grŵp o bobl a ddiffinnir gan hil (h.y. wrth eu lliw, cenedligrwydd, neu darddiad ethnig neu genedlaethol).
Enghraifft: Mae cwpl Sipsi yn cael eu gwrthod gwasanaeth mewn tafarn sy'n dangos arwydd 'Dim Sipsiwn neu Deithwyr' ar eu drws . Mae'n amlwg o'r hysbysiad ar y drws bod triniaeth llai ffafriol y cwpl Sipsiwn oherwydd eu hil.
Cenedligrwydd
Dyma’r berthynas gyfreithiol benodol rhwng unigolyn â’r wladwriaeth trwy enedigaeth neu ddinasyddio (h.y. dinasyddiaeth). Mae cenedligrwydd yn wahanol i ddarddiad cenedlaethol.
Tarddiad Ethnig
Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl sydd yn perthyn i grŵp hiliol, sydd yn cynnwys pobl sydd yn perthyn i grŵp ethnig. Grŵp ethnig yw grŵp sydd yn ystyried ei hyn ac yn cael ei ystyried gan eraill fel cymuned nodedol ac ar wahân.
Mae cyfraith achosion wedi barnu bod nifer o nodweddion diffiniol o grŵp ethnig. Er mwyn i grŵp ethnig gael eu amddiffyn gan y Ddeddf bydd yn rhaid i’r grŵp gael:-
- hanes hir ac wedi ei rannu;
- traddodiad diwylliannol ei hun; ac
- un neu fwy o’r nodweddion canlynol; iaith gyffredin; llenyddiaeth gyffredin; crefydd gyffredin; gwreiddiau daearyddol gyffredin; neu fod yn grŵp lleiafrifol neu gorthrymedig.
Mae’r llysoedd wedi barnu bod y grŵpiau canlynol yn grŵpiau ethnig ac felly bod pobl sydd yn perthyn i’r grŵpiau hyn wedi eu gwarchod gan y Ddeddf:-
- Sikhiaid
- Iddewon
- Sipsiwn Romani
- Teithwyr Gwyddelig
- Sipsiwn Albanaidd
- Teithwyr Albanaidd
Enghraifft: Gallai rheol bod yn rhaid i gyflogeion neu ddisgyblion beidio â gwisgo penwisg eithrio dynion a bechgyn sy'n gwisgo twrban neu ddynion neu fechgyn Iddewig sy'n gwisgo yarmulke, yn unol ag arferion o fewn eu grŵp hiliol (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cod Ymarfer Sikh)
Tarddiad Genedlaethol
Mae tarddiad cenedlaethol yn wahanol i genedligrwydd. Mae’n rhaid i darddiad cenedlaethol gael elfennau hanesyddol a daearyddol sydd yn dangos bodolaeth cenedl ar ryw adeg mewn amser.
-
O dan y Ddeddf Gydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) person hefo’r nodwedd warchodedig o grefydd neu gred yw person hefo crefydd neu gred penodol neu person sydd yn perthyn i grŵp o bobl sydd o’r un grefydd neu gred.
Crefydd
Mae crefydd yn golygu unrhyw grefydd ac hefyd yn cynnwys bod heb grefydd. Mae’r term yn cynnwys y crefyddau sydd yn cael eu cydnabod yn arferol ond gall hefyd gynnwys crefyddau llai cyffredin neu llai adnabyddus, ar yr amod bod y crefydd hefo strwythur a system gred clir.
Enghraifft: Mewn cyfweliad mae menyw Gristnogol yn cyfeirio at yr Eglwys y mae'n mynychu yn rheolaidd. Er bod ganddi y sgiliau i wneud y gwaith, nid yw'r cyfwelydd yn cyflogi hi, gan nad yw'n hoffi'r syniad o weithio ochr yn ochr â rhywun sy'n credu yn Nuw. Byddai hyn yn wahaniaethu oherwydd crefydd.
Cred
Mae cred yn golygu cred grefyddol neu athronyddol ac hefyd yn cynnwys bod heb gred.
Mae cred grefyddol yn mynd y tu hwnt i gredoau am a chadw at grefydd neu ei brif erthyglau o ffydd, a gall amrywio o berson i berson.Mae credoau athronyddol hefyd yn cael ei cynnwys gan y Ddeddf. Mae’r llysoedd wedi sefydlu prawf ar gyfer beth sydd yn cyfrif fel cred athronyddol ac felly i gred athronyddol gael ei amddiffyn o dan y Ddeddf bydd yn rhaid iddo:-
- cael ei ddal yn wirioneddol;
- fod yn gred ac nid barn neu safbwynt sydd yn seiliedig ar gyflwr presennol y wybodaeth ar gael;
- fod yn gred o ran nodwedd bwysig a sylweddol o fywyd ac ymddygiad dynol;
- gyrraedd lefel benodol o argyhoeddiad, difrifoldeb, cydlyniad a phwysigrwydd; a
- bod yn deilwng o barch mewn cymdeithas ddemocrataidd, dim yn anghytûn hefo urddas dynol, a dim yn gwrthdaro gyda hawliau sylfaenol pobl eraill
Enghraifft: Mae rheolwr elusen grefyddol yn rhoi'r 'sac' i'w dderbynnydd pan mae'n darganfod nad oes ganddi gredoau crefyddol ddim mwy. Mae hyn yn debygol o gael ei weld fel gwahaniaethu, gan nad oes angen i'r derbynnydd gael gredoau crefyddol er mwyn cyflawni ei swydd
-
Mae’r Ddeddf yn datgan bod dyn a dynes, yn ogystal a pobl o’r un rhyw, hefo’r nodwedd warchodedig o ryw.
Mae dyn a dynes yn ogystal a dynion a marched wedi eu amddiffyn gan y Ddeddf. Fodd bynnag, nid yw’r nodwedd warchodedig o ryw yn cynnwys ailbennu rhywedd neu cyfeiriadedd rhywiol, gan eu bod yn nodweddion warchodedig ar ben eu hunain.
Enghraifft: Mae menyw sy'n gweithio mewn adran gyfrifon yn cael ei drosglwyddo oddi wrth ei swydd yn erbyn ei hewyllys am ei bod mewn perthynas gyda chydweithiwr. Os nad yw'r cyflogwr yn trosglwyddo dynion yn yr un amgylchiadau, gall y trosglwyddiad hwn fod yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail rhyw.
-
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn nodi bod cyfeiriadedd rhywiol yn golygu cyfeiriadedd rhywiol rhywun tuag at:-
- pobl o’r un rhyw;
- pobl o’r rhyw arall; neu
- bobl o’r naill ryw
Mae'r Ddeddf yn amddiffyn pobl o gyfeiriadedd rhywiol penodol a phersonau sydd o'r un cyfeiriadedd rhywiol.
Nid yw’r Ddeddf yn amddiffyn cyfeiriadedd rhywiol unigolion yn unig, ond hefyd amlygiadau o'r cyfeiriadedd rhywiol megis ymddangosiad, y lleoedd y maent yn ymweld a neu'r bobl y maent yn cysylltu â hwy.
Mae amddiffyniad cyfreithiol rhag gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn berthnasol i bawb, beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol.
Mae gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd:- eich bod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu yn syth
- bod pobl yn meddwl eich bod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu yn syth, neu
- eich bod yn gysylltiedig â rhywun sy'n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu yn syth, er enghraifft ffrind, perthynas neu gydweithiwr .
Mae'r gyfraith yn berthnasol i wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn ogystal ag i aflonyddu ac erledigaeth (gweler yr adran ar ymdyggiad gwaharddedig am esboniad) . Mae'r gyfraith yn berthnasol i'r sectorau preifat, cyhoeddus a dim-am-elw.
Enghraifft: Mae gweithiwr benywaidd yn cael eu cyfweld ar gyfer dyrchafiad ac yn ystod y broses gyfweld mae hi'n sôn bod ganddi bartner benywaidd. Er bod ganddi'rholl sgiliau a cymwyseddau sy'n ofynnol ar gyfer dyrchafiad nid yw'r sefydliad yn cynnig dyrchafiad iddi oherwydd ei bod yn lesbiad. Byddai hyn yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
Enghraifft: Mae landlord yn gofyn i asiant gosod ddweud bod eu fflat i adael wedi ei gymryd gan bod cwpl lesbiaidd neu hoyw wedi holi am ei rentu. Os bydd yr asiant gosod yn cytuno, byddai'r landlord a'r asiant gosod yn euog o wahaniaethu oherwydd cyfeiriadedd rhywiol.
-
Mae’r Ddeddf Gydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn dweud bod y nodwedd gwarchodedig o ailbennu rhywedd gan berson os yw’r person:
- yn bwriadu mynd drwy;
- yn mynd drwy; neu
- wedi mynd drwy
proses (neu ran o broses) er mwyn ailbennu ei rhywedd drwy newid nodweddion ffisiolegol neu briodoleddau eraill rhyw.
Mae’r ‘broses’ o ailbennu rhywedd yn broses personol a nid oes raid iddo fod yn un meddygol (e.g. un wedi ei gynnal o dan oruchwyliaeth feddygol).
Canllawiad
Nid yw’n angenrheidiol bod person wedi mynd drwy llawdriniaeth ailbennu rhywedd i gael y nodwedd warchodedig o Ailbennu Rhywedd. Bydd therapi hormonaidd neu mathau arall o therapi yn ddigonol, fel hefyd y bydd tystiolaeth bod y person i bob pwrpas yn byw eu bywyd yn eu rhyw newydd.
Bydd pobl sydd wedi cychwyn y broses ond yna yn penderfynu i roi’r gorau iddi yn dal i gael y nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd.
Mae’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 yn dweud pryd mae person wedi mynd drwy ailbennu rhywedd ac yn dal ‘Tysystgrif Cydnabod Rhywedd’ (TCR) dylent gael eu trin fel eu rhyw newydd.
Pan fydd person yn cael diagnosis o ‘Disfforia Rhyw’ neu ‘Anhwylder Hunaniaeth Rhyw’, yna gall y person hefyd gael y nodwedd warchodedig o anabledd (lle bydd y cyflwr yn cael effaith andwyol sylweddol a hir dymor ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau dydd-i-dydd).
Enghraifft: Mae person a gafodd ei eni yn fenywaidd wedi penderfyny treulio gweddill ei fywyd fel dyn. Mae'n dechrau ac yn parhau i fyw fel dyn. Penderfynodd beidio â gofyn am gyngor meddygol gan ei fod yn mynd heibio yn llwyddiannus fel dyn heb yr angen am unrhyw ymyrraeth feddygol. Byddai'n cael eu diogelu fel rhywun sydd â'r nodwedd warchodedig o ailbennu rhywedd. (Deddf Cydraddoldeb 2010, Nodiadau Esboniadol).
Enghraifft: Cyn cinio ffurfiol a drefnwyd gan ei gyflogwr, mae gweithiwr yn dweud wrth ei gydweithwyr ei fod yn bwriadu dod i'r digwyddiad wedi gwisgo fel menyw 'am laff' . Mae ei reolwr yn dweud wrtho am beidio â gwneud hyn, gan y byddai'n creu delwedd wael o'r cwmni. Oherwydd nad oes gan y gweithiwr unrhyw fwriad o newid rhyw, ni fyddai ganddo hawliad o wahaniaethu. (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol , Côd Ymarfer Cyflogaeth)
Cam 2: Ym mhle cawsoch eich gwahaniaethu yn erbyn? Dewisiwch 'sector'
-
Rhan 1: Diffiniad Gwaith
Yn ogystal â chwmpasu ymgeiswyr am swyddi a phobl a gyflogir o dan gontract cyflogaeth, mae darpariaethau Gwaith y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn berthnasol i amrywiaeth o sefyllfaoedd eraill sy'n gysylltedig â gwaith, fel:-
- Prentisiaethau
- Pobl sy'n gweithio o dan gontract yn bersonol i wneud gwaith
- Gweithwyr Contract
- Swyddogion Heddlu
- Gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog
- Partneriaid mewn Cwmniau
- Bargyfreithwyr
- Eiriolwyr
- Penodai
- Cyrff Cymwysterau
- Sefydliadau Masnach
- Gwasanaethau Cyflogi
- Aelodau Awdurdodau Lleol
- Cyflogaeth y Goron
- Aelodau staff Tŷ’r Cyffredin
- Aelodau staff Tŷ’r Arglwyddi a’u staff
- Gwaith ar y môr
- Gweithio ar longau a hofranlongau
Eithriadau
Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys nifer o eithriadau sydd, mewn rhai amgylchiadau penodol, yn caniatau gwahaniaethu a fyddai fel arall wedi cael ei wahardd o dan darpariaethau Gwaith y Ddeddf. Mae'r eithriadau wedi'u rhestru isod *.
*Mae’r rhestr wedi ei fwriadu ar gyfer enghreifftau yn unig. Rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â Llinell Gymorth y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb am gyngor pellach ar fanylion a chymhwysiad yr eithriadau.
(a) Eithriadau cyffredinol
- Gofyniad Galwedigaethol
- Gofynion crefyddol sy'n ymwneud â rhyw, priodas a.y.y.b, cyfeiriadedd rhywiol
- Gofynion eraill yn ymwneud â chrefydd neu gred
- Lluoedd arfog
- Gwasanaethau cyflogaeth
(b) Eithriadau sy'n ymwneud ag oedran
- Budd-daliadau yn seiliedig ar hyd gwasanaeth
- Yr isafswm cyflog cenedlaethol: gweithwyr ifanc
- Yr isafswm cyflog cenedlaethol: prentisiaid
- Diswyddo
- Gofal plant
- Cyfraniadau i gynlluniau pensiwn personol
(c) Eithriadau eraill
- Taliadau sydd ddim yn gytundebol i fenywod ar absenoldeb mamolaeth
- Budd-daliadau yn dibynnu ar statws priodasol ac ati
- Darparu gwasanaethau a.y.y.b.i'r cyhoedd
- Contractau yswiriant, a.y.y.b.
-
Gwasanaethau
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn gosod dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau i beidio â gwahaniaethu yn erbyn defnyddwyr y gwasanaeth. Mae'r Ddeddf yn diffinio darparwr gwasanaeth fel unrhyw un sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd neu i adran o'r cyhoedd. Mae'r diffiniad o wasanaeth hefyd yn cynnwys darparu nwyddau a chyfleusterau.
Mae’r Ddeddf yn cwmpasu amrywiaeth eang o wasanaethau. Nid oes gwahaniaeth os yw'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan sefydliad preifat, cyhoeddus neu wirfoddol ac nid oes gwahaniaeth os oes tâl neu beidio am y gwasanaeth.Mae Cod Ymarfer Statudol ar gyfer Gwasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn rhestru'r canlynol (heb fod yn gynhwysfawr) fel enghreifftiau o wasanaeth: - cyfleusterau toiled; adrannau'r llywodraeth a'u hasiantaethau; elusennau; gwestai; bwytai; tafarndai; swyddfeydd post; banciau; cymdeithasau adeiladu; cyfreithwyr; cyfrifwyr; sefydliadau telathrebu; cyfleustodau cyhoeddus; gwasanaethau a ddarperir gan weithredwyr bysiau a threnau; gorsafoedd rheilffordd; meysydd awyr; parciau cyhoeddus; campfeydd chwaraeon; canolfannau hamdden; asiantaethau cynghori; theatrau; sinemâu; siopau trin gwallt; siopau; stondinau marchnad; gorsafoedd petrol ac ysbytai.
Swyddogaethau Cyhoeddus
Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd i beidio â gwahaniaethu ar y rheiny sy'n gweithredu swyddogaeth gyhoeddus, os nad yw gweithredu y swyddogaeth yn gyfystyr â darparu gwasanaeth i'r cyhoedd neu ran o'r cyhoedd neu petai gweithredu y swyddogaeth yn cael ei gynnwys o dan ran arall o'r Ddeddf.
Bydd swyddogaethau cyhoeddus a fyddai'n bodloni'r diffiniad o swyddogaeth cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 hefyd yn cael eu cwmpasu gan y Ddeddf.
Yn aml, bydd awdurdod cyhoeddus yn gweithredu swyddogaeth gyhoeddus oherwydd bod yr awdurdod yn gweithredu o dan bŵer neu ddyletswydd statudol, er enghraifft wrth gasglu trethi neu gynnal gweithgareddau gorfodi'r gyfraith.
Fodd bynnag, nid yw swyddogaethau cyhoeddus yn cael eu gweithredu gan awdurdodau cyhoeddus yn unig.Gall sefydliadau preifat a / neu wirfoddol hefyd weithredu swyddogaethau cyhoeddus ar ran awdurdod cyhoeddus ac felly byddant yn cael eu cynnwys yn y fath amgylchiadau. Enghraifft o hyn yw lle mae cwmni preifat yn rheoli carchar neu pan fydd sefydliad gofal gwirfoddol yn cymryd cyfrifoldebau amddiffyn plant.
Eithriadau a Chyfyngiadau
Nid yw oedran (ble mae’r person yn llai na 18 mlwydd oed) na phriodas a phartneriaeth sifil yn nodweddion warchodedig perthnasol at bwrpasau y gwasanaethau a darpariaethau swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf.
Yn ogystal, mae'r Ddeddf yn cynnwys sawl eithriad sydd, mewn rhai amgylchiadau penodol, yn caniatâu gwahaniaethu yn y darpariaeth o wasanaethau a / neu mewn gweithredu swyddogaethau cyhoeddus a fyddai, fel arall, wedi cael eu gwahardd. Mae'r eithriadau wedi eu rhestru isod*.
*Mae’r rhestr wedi ei fwriadu ar gyfer enghreifftau yn unig rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â Llinell Gymorth y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb am gyngor pellach ar fanylion a chymhwysiad yr eithriadau.
- Materion Cyfansoddiadol
- Senedd
- Swyddogaethau Barnwrol
- Lluoedd Arfog
- Gwasanaethau DiogelwchEducation
- Addysg
- Iechyd a Gofal
-
- Gwasanaethau Gwaed
- Iechyd a Diogelwch
- Gofal o fewn y Teulu
- Mewnfudiad
-
- Oed
- Anabledd
- Cenedligrwydd a Tharddiad Ethnig neu Genedlaethol
- Crefydd a Chred
- Yswiriant a gwasanaethau ariannol eraill
-
- Gwasanaethau wedi eu trefnu gan gyflogwr
- Oed
- Anabledd
- Polisiau yswiriant ac oedd yn bodoli yn barod
- Priodas
-
- Ailbennu Rhywedd: Lloegr a Chymru
- Ailbennu Rhywedd: Yr Alban
- Gwasanaethau ar wahân, sengl a consesiynau
-
- Gwasanaethau ar wahân i’r rhywiau
- Gwasanaethau rhyw-sengl
- Ailbennu Rhywedd
- Gwasanaethau yn ymwneud â chrefydd
- Gwasanaethau a ddarperir yn arferol yn unig ar gyfer pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig
- Consesiynau
- Gwyliau yn gysylltedig ag oedran
- Gwasanaethau wedi eu cyfyngu ar sail oedran
- Cartrefi symudol preswyl
- Teledu, radio a darlledu a dosbarthu ar-lein
- Trafnidiaeth
-
- Cludiant drwy’r awyr
- Cludiant dros dir
-
Mae darpariaethau Adeiladau y Ddeddf Cydraddoldeb 2012 (y Ddeddf) yn gosod dyletswydd ar y rhai sydd â'r hawl i gael gwared ar eiddo i beidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl sy'n chwilio am eiddo (h.y. lle i fyw).
Mae darpariaethau Adeiladau y Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar bobl sy'n rheoli eiddo i beidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl sy'n meddiannu eu heiddo.
Mae adeiladau/eiddo yn golygu y cyfan neu ran o eiddo ac mae'n cynnwys masnachol yn ogystal ag eiddo preswyl.
Mae gwarediad o eiddo yn golygu gwerthu neu osod (gan gynnwys is-osod) eiddo, ond hefyd yn cynnwys rhoi hawl i feddiannu eiddo, megis drwy drwydded neu gytundeb cytundebol eraill (e.e. rhandiroedd, angorfeydd, parciau carafannau a.y.y.b.).
Mae dyletswydd rheolwr eiddo i beidio â gwahaniaethu yn amddiffyn pobl sy'n breswylwyr cyfreithiol o’r eiddo.
Eithriadau a Chyfyngiadau
Nid yw oed na phriodas a partneraeth sifil yn nodweddion warchodedig perthnasol ar ddibenion darpariaethau Adeiladau/Eiddo y Ddeddf.
Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys nifer o eithriadau sydd, mewn rhai amgylchiadau rhagnodedig, yn caniatâu gwahaniaethu a fyddai fel arall wedi cael eu gwahardd o dan darpariaethau Adeiladau y Ddeddf. Mae'r eithriadau wedi'u rhestru isod *.
*Mae’r rhestr wedi ei fwriadu ar gyfer enghreifftau yn unig rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â Llinell Gymorth y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb am gyngor pellach ar fanylion a chymhwysiad yr eithriadau.
- Perchen-feddiannydd
- Safleoedd bach
-
Cyrff Cymwysterau Cyffredinol
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf), mae Corff Cymwysterau Cyffredinol (CCC) o dan ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu. CCC yw awdurdod neu gorff a all roi cymhwyster perthnasol. Mae'r cymwysterau perthnasol yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn cael eu rhestru yn benodol gan y Ddeddf ac maent fel a ganlyn: -
Lloegr
- Diploma Egwyddor Dysgu 14-19
- Dyfarniadau Uwch Estynedig
- Tystysgrif Rhyngwladol Caergrawnt (Cambridge)
- Cymhwyster Cyn-Brifysgol Caergrawnt
- Tystysgrif mewn Llythrennedd Oedolion
- Tystysgrif mewn Rhifedd Oedolion
- Tystysgrifau lefel mynediad mewn pynciau TGAU
- Prosiectau Estynedig
- Prosiectau Sylfaen
- Cymwysterau Mathemateg Annibynnol
- Sgiliau Gweithredol
- Tystysgrif Gyffredinol o Addysg Lefel Uwch (Lefelau Uwch ac Uwch Gyfrannol)
- Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd
- Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol
- Prosiectau Uwch
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
- Sgiliau Allweddol
- Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth
Yr Alban
- Cymwysterau Cenedlaethol yn yr Alban, sy'n cynnwys: - Safon Graddau a Chyrsiau Cenedlaethol (Mynediad, Canolradd, Uwch, Uwchraddol yn ogystal â'r cymwysterau Cenedlaethol newydd sydd i'w cyflwyno o dan y Cwricwlwm er Rhagoriaeth o 2013/14). Nid yw'n cynnwys cymwysterau cenedlaethol sy'n alwedigaethol eu natur megis Dyfarniadau Grŵp Cymwysterau Cenedlaethol (Tystysgrifau Cenedlaethol a Dyfarniadau Dilyniant Cenedlaethol).
Cymru
- Dyfarniadau Uwchradd Estynedig
- Cymwysterau Tystysgrif lefel mynediad
- Cymwysterau Mathemateg Annibynnol
- Sgiliau Gweithredol
- Tystysgrif Addysg Gyffredinol Safon Uwch (Lefelau A ac AS)
- Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd
- Y Fagloriaeth Ryngwladol
- Sgiliau Allweddol a Sgiliau Hanfodol Cymru
- Prif Gymwysterau Prosiect a Dysgu
- Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
Os nad yw'r cymhwyster dan sylw yn un o'r rhai a restrir uchod, yna ni fydd y darpariaethau CCC yn berthnasol.
Yn ogystal, dylid nodi nad yw awdurdod neu gorff yn CCC ac felly ni fydd darpariaethau CCC yn gymwys eto os yw'r awdurdod neu'r corff sy'n darparu’r gymhwyster yn naill ai: -
- y corff sy'n gyfrifol am ysgol (am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am ysgol, gweler y dudalen sy'n ymwneud â Rhan 6: Addysg - Ysgolion); neu
- nid yw awdurdod neu gorff hefyd yn CCC os yw'n gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach neu uwch (am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwy yw'r corff llywodraethu sefydliad o'r fath gweler Rhan 6: Addysg - Bellach ac Uwch); neu
- gweithredu swyddogaethau o dan y Deddfau Addysg; neu
- gweithredu swyddogaethau o dan y Ddeddf Addysg (Alban)
-
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf), mae Corff Cymwysterau Cyffredinol (CCC) o dan ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu. CCC yw awdurdod neu gorff a all roi cymhwyster perthnasol. Mae'r cymwysterau perthnasol yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn cael eu rhestru yn benodol gan y Ddeddf ac maent fel a ganlyn: -
Lloegr
- Diploma Egwyddor Dysgu 14-19
- Dyfarniadau Uwch Estynedig
- Tystysgrif Rhyngwladol Caergrawnt (Cambridge)
- Cymhwyster Cyn-Brifysgol Caergrawnt
- Tystysgrif mewn Llythrennedd Oedolion
- Tystysgrif mewn Rhifedd Oedolion
- Tystysgrifau lefel mynediad mewn pynciau TGAU
- Prosiectau Estynedig
- Prosiectau Sylfaen
- Cymwysterau Mathemateg Annibynnol
- Sgiliau Gweithredol
- Tystysgrif Gyffredinol o Addysg Lefel Uwch (Lefelau Uwch ac Uwch Gyfrannol)
- Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd
- Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol
- Prosiectau Uwch
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
- Sgiliau Allweddol
- Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth
Yr Alban
- Cymwysterau Cenedlaethol yn yr Alban, sy'n cynnwys: - Safon Graddau a Chyrsiau Cenedlaethol (Mynediad, Canolradd, Uwch, Uwchraddol yn ogystal â'r cymwysterau Cenedlaethol newydd sydd i'w cyflwyno o dan y Cwricwlwm er Rhagoriaeth o 2013/14). Nid yw'n cynnwys cymwysterau cenedlaethol sy'n alwedigaethol eu natur megis Dyfarniadau Grŵp Cymwysterau Cenedlaethol (Tystysgrifau Cenedlaethol a Dyfarniadau Dilyniant Cenedlaethol).
Cymru
- Dyfarniadau Uwchradd Estynedig
- Cymwysterau Tystysgrif lefel mynediad
- Cymwysterau Mathemateg Annibynnol
- Sgiliau Gweithredol
- Tystysgrif Addysg Gyffredinol Safon Uwch (Lefelau A ac AS)
- Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd
- Y Fagloriaeth Ryngwladol
- Sgiliau Allweddol a Sgiliau Hanfodol Cymru
- Prif Gymwysterau Prosiect a Dysgu
- Tystysgrif Graidd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
Os nad yw'r cymhwyster dan sylw yn un o'r rhai a restrir uchod, yna ni fydd y darpariaethau CCC yn berthnasol.
Yn ogystal, dylid nodi nad yw awdurdod neu gorff yn CCC ac felly ni fydd darpariaethau CCC yn gymwys eto os yw'r awdurdod neu'r corff sy'n darparu’r gymhwyster yn naill ai: -
- y corff sy'n gyfrifol am ysgol (am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am ysgol, gweler y dudalen sy'n ymwneud â Rhan 6: Addysg - Ysgolion); neu
- nid yw awdurdod neu gorff hefyd yn CCC os yw'n gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach neu uwch (am ragor o wybodaeth ynglŷn â phwy yw'r corff llywodraethu sefydliad o'r fath gweler Rhan 6: Addysg - Bellach ac Uwch); neu
- gweithredu swyddogaethau o dan y Deddfau Addysg; neu
- gweithredu swyddogaethau o dan y Ddeddf Addysg (Alban)
-
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn gosod dyletswydd ar y corff sy'n gyfrifol am ysgol i beidio â gwahaniaethu yn erbyn disgyblion neu ddisgyblion arfaethedig.
Amcan y Ddeddf yw i gynnwys pob ysgol e.e. ysgolion y wladwriaeth, ysgolion am ddim, academiau, ysgolion annibynnol, ysgolion preifat, ysgolion ffydd ac ysgolion arbennig.
Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i bolisiau a a safonnau mynediad yn ogystal a'r ffordd y mae ysgol yn darparu addysg, materion disgyblu gan gynnwys gwaharddiadau, tripiau ysgol a chlybiau ar ôl ysgol / gweithgareddau a.y.y.b.Mae darpariaethau ysgolion y Ddeddf hefyd yn gymwys i ysgolion meithrin ariennir gan yr Awdurdod Addysg Lleol ac ysgolion sy'n darparu addysg bellach ac addysg uwch (megis ysgolion sydd â 6ed dosbarth, er enghraifft).
Eithriadau a Chyfyngiadau
Nid yw oedran a phriodas a phartneriaeth sifil yn nodweddion warchodedig perthnasol at ddibenion darpariaethau ysgol y Ddeddf.
Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys nifer o eithriadau sydd, mewn rhai amgylchiadau penodol, yn caniatau gwahaniaethu a fyddai fel arall wedi cael ei wahardd o dan darpariaethau ysgolion y Ddeddf. Mae'r eithriadau wedi'u rhestru isod *.
*Mae’r rhestr wedi ei fwriadu ar gyfer enghreifftau yn unig. Rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â Llinell Gymorth y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb am gyngor pellach ar fanylion a chymhwysiad yr eithriadau.
Gwahaniaethu Rhyw
- Mynediad i ysgolion un-rhyw
- Preswyl un-rhyw mewn ysgolion
- Ysgolion un-rhyw yn troi yn gyd-addysgol
Gwahaniaethu ar sail Crefydd neu Cred
- Ysgolion sydd â chymeriad crefyddol a.y.y.b.
- Cwricwlwm, addoli, ac ati
Gwahaniaethu ar sail Anabledd
- Ffurfiau a ganiateir o ddewis
-
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn berthnasol i unrhyw gymdeithas o bobl os:
- Mae gan y gymdeithas o leiaf 25 aelod;
- derbyn i aelodaeth yn cael ei reoleiddio gan reolau y gymdeithas ac yn cynnwys proses ddethol; a
- Nid yw'n sefydliad masnach , megis busnes neu sefydliad proffesiynol neu undeb llafur.
Nid oes ots os yw'r gymdeithas yn ymgorffori neu fel arall , neu os bydd unrhyw un o'i weithgareddau yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw . Mae'n bwysig nodi bod cymdeithasau sy'n elusennau yn ddarostyngedig i ddarpariaethau ychwanegol o dan y Ddeddf sy'n ymwneud ag elusennau.
Rhaid i'r gofyniad i gymdeithas fod â rheolau peidio â rheoleiddio derbyn i aelodaeth yn golygu pob gymdeithas set ffurfiol o reolau ysgrifenedig. Bydd yn ddigonol os bydd y rheolau ar gyfer derbyn aelodau newydd yn hysbys gan yr holl aelodau sydd ynghlwm yn y broses ddethol ac yn cael eu cymhwyso'n gyson ac yn gyson.
Os oes angen aelodau o'r cyhoedd i dalu ffi ymuno â sefydliad heb unrhyw fath o ddethol, er enghraifft campfa neu glwb nos , nid yw hyn yn gymdeithas o dan y Ddeddf. Mae'r sefydliadau hyn yn ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd a'u dyletswyddau yn cael eu cynnwys gan y wybodaeth i mewn ' Gwasanaethau a Swyddogaethau Cyhoeddus ' . Mae enghreifftiau eraill o grwpiau na fyddent yn cael eu cwmpasu gan y Ddeddf , clwb cefnogwyr pêl-droed , clwb llyfrau neu grŵp merched ar gyfer cerdded .
Gall cymdeithasau o dan y Ddeddf yn cynnwys :
- Pleidiau Gwleidyddol ;
- Clybiau preifat , gan gynnwys clybiau chwaraeon , clybiau ar gyfer personél cyn -wasanaeth , clwb gweithwyr , clybiau ar gyfer pobl sydd â diddordebau penodol fel garddio , pysgota neu gerddoriaeth ;
- Sefydliadau a sefydlwyd i hyrwyddo buddiannau ei aelodau o'r fath fel gymnastwyr amatur ;
- trefniadaeth bobl ifanc megis Girl Guides , Sgowtiaid neu Glybiau Ffermwyr Ifanc; neu
Mae sefydliadau fel y Rotari a Inner Wheel Clybiau neu Grand Lodges Seiri Rhyddion .
Mae'r uchod yn enghreifftiau o gymdeithasau ac mae llawer mwy sy'n cael eu cwmpasu gan y Ddeddf .
Gall cymdeithasau hefyd fod yn ddarparwr gwasanaethau , cyflogwr neu gorff hyfforddi; gall cymdeithas fod yn gyfrifol am waredu neu reoli safleoedd neu ddarparu addysg . Mae'r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ym mhob un o'r meysydd hyn; pan fydd cymdeithas yn gwneud unrhyw un o'r swyddogaethau hyn byddant yn ddarostyngedig i rannau eraill o'r Ddeddf.
Cymhwyso'r Ddeddf i Gymdeithasau
Mae'r Ddeddf yn berthnasol i'r ffordd y mae'n trin ei aelodau, y rhai sy'n ceisio i ddod yn aelodau , cymdeithion neu westeion neu bobl sy'n ceisio i ddod yn westeion .
Beth yw gwahaniaethu anghyfreithlon gan gymdeithas ?
Mae'n anghyfreithlon i gymdeithas i wahaniaethu yn erbyn ei aelodau , aelodau posibl , cymdeithion , gwesteion a gwesteion potensial trwy gyfrwng y yn cynnal gwaharddedig a ddiffinnir gan y Ddeddf:
- Gwahaniaethu uniongyrchol
- Gwahaniaethu anuniongyrchol
- Gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd
- Beichiogrwydd a gwahaniaethu ar sail mamolaeth neu
- Methiant i wneud addasiad rhesymol
Mae hefyd yn anghyfreithlon i gymdeithas i aflonyddu neu erlid ei aelodau , pobl sy'n ceisio i fod yn aelodau , cymdeithion , gwestai a phobl sy'n ceisio i fod yn westeion . Gweler yr adran ar gyfer aflonyddu ac erledigaeth o dan yn cynnal gwahardd y wefan.
Gall cymdeithasau gyfyngu aelodaeth i bobl sy'n rhannu nodwedd gwarchodedig .
Mae'r Ddeddf yn caniatáu cysylltiadau o unrhyw faint neu gymeriad , ac eithrio pleidiau gwleidyddol , i gyfyngu ei aelodaeth i bobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig . Yr unig eithriad yw y gall aelodaeth byth yn cael ei gyfyngu ar y sail o liw.Os aelodaeth yn cael ei gyfyngu i'r rhai sy'n rhannu nodwedd gwarchodedig benodol , yna efallai y bydd y gymdeithas hefyd yn cyfyngu mynediad o cymdeithion i fantais, cyfleuster neu wasanaeth a'r gymdeithas wahodd fel gwesteion neu ganiatáu i gael eu gwahodd gan mai dim ond pobl gwesteion sy'n rhannu'r un fath nodwedd gwarchodedig.
Nid yw byth yn gyfreithlon i bleidiau gwleidyddol i gyfyngu ar aelodaeth . Cysylltwch â'r llinell gymorth os ydych angen mwy o wybodaeth am hyn .
enghreifftiau:
Mae clwb sboncen gyda 35 o aelodau yn gymwys rheol bod yn rhaid i unrhyw aelod posibl chwarae yn erbyn dau aelod o'r clwb a fydd yn ardystio a yw eu gêm o safon ddigonol cyn y gwneir penderfyniad ar eu cais aelodaeth . Mae'r clwb hwn yn debygol o ddod o fewn y darpariaethau ar gymdeithasau . ( Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol , Cod Ymarfer )
Gyfansoddiad clwb rhedeg i ferched yn darparu ar gyfer y merched aelodau o glybiau rhedeg rhyw cymysg lleol i fod yn gymdeithion , byddai hyn yn gyfreithlon o dan y Ddeddf. ( Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol , Cod Ymarfer )Mae clwb gwin yn cyfarfod i yfed yn benodol a thrafod rhinweddau gwahanol fathau o win . Mae aelod posibl sydd â hepatitis B ac felly ni all goddef alcohol am ymuno â'r clwb gwin am resymau cymdeithasol ac yn gofyn ei fod yn ehangu ei weithgareddau i gynnwys blasu sudd ffrwythau. Byddai hyn yn newid natur y clwb yn sylfaenol ac felly nid yw'n addasiad rhesymol y mae'n ofynnol i'r clwb i wneud . ( Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol , Cod Ymarfer )
Cam 2: Gwahaniaethu Beichiogrwydd a Mamolaeth
-
Triniaeth anffafriol oherwydd beichiogrwydd
O dan adran 18 o’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) mae cyflogwr yn gwahaniaethu yn erbyn menyw os, yn ystod y 'cyfnod gwarchodedig', maent yn ei thrin ei anffafriol mewn perthynas â 'ei beichiogrwydd' oherwydd: -
- y beichiogrwydd; neu
- salwch a ddioddefir ganddi hi o ganlyniad i'w beichiogrwydd.
Mae'n rhaid i’r driniaeth anffafriol ddigwydd o fewn y cyfnod gwarchodedig er mwyn bod yn gyfystyr â gahaniaethu oherwydd beichiogrwydd. Mae’r cyfnod gwarchodedig yn dechrau pan fydd y beichiogrwydd yn dechrau. Mae’r cyfnod gwarchodedig y fenyw yn dod i ben: -
- ar ddiwedd y cyfnod Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin (AMC) neu ar ddiwedd cyfnod yr Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol (AMY); neu
- pan fydd yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl i'r beichiogrwydd os yw hynny'n gynharach; neu
- os nad oes ganddi'r hawl i absenoldeb mamolaeth pythefnos o ddiwedd y beichiogrwydd.
Mae hefyd yn bwysig nodi os yw menyw yn cael ei thrin yn anffafriol oherwydd beichiogrwydd neu famolaeth y tu allan i'r cyfnod gwarchodedig, os cafodd y penderfyniad ei wneud yn ystod y cyfnod gwarchodedig ond ei weithredu y tu allan i'r cyfnod bydd yn dal i gael ei ystyried fel digwydd yn ystod y cyfnod gwarchodedig, a byddai cais yn seiliedig ar y nodwedd o beichiogrwydd a mamolaeth. Fodd bynnag, os yw'r weithred(au) triniaeth anffafriol o fenyw oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth yn digwydd y tu allan i'r cyfnod gwarchodedig, mae'n rhaid ystyried a allai'r driniaeth fod yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail rhyw.
Triniaeth anffafriol oherwydd mamolaeth
Bydd cyflogwyr hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn merch os ydynt yn ei thrin yn anffafriol oherwydd ei bod ar absenoldeb mamolaeth gorfodol.
Mae hefyd yn anghyfreithlon i gyflogwr drin menyw yn anffafriol oherwydd ei bod :-- yn ceisio,
- wedi ymarfer
- neu wedi ceisio arfer ei hawl i AMC a/neu AMY
Canllawiau Cyffredinol ar wahaniaethu beichiogrwydd a mamolaeth
Ffordd dda i ystyried hawliadau gwahaniaethu beichiogrwydd a mamolaeth yw gofyn "oni bai am" y beichiogrwydd neu salwch sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd, neu oni bai am y cyfnod mamolaeth, byddai hi wedi cael eu trin yn llai ffafriol. Os gall ddadlau mai “na fyddai” yw'r ateb, gall y driniaeth fod yn wahaniaethol.
Mae'r defnydd o'r term "ei beichiogrwydd" yn golygu nad yw hawliad am wahaniaethu cysylltiadol yn bosibl gyda’r nodwedd warchodedig o feichiogrwydd a mamolaeth. Fodd bynnag, gall triniaeth llai ffafriol oherwydd cysylltiad gyda menyw feichiog neu menyw sydd yn ddiweddar wedi rhoi genedigaeth arwain at hawliad am wahaniaethu ar sail rhyw.
Yn wahanol i hawliau gwahaniaethu rhyw, nid oes angen i ddangos bod y driniaeth yn anffafriol o'i gymharu â sut y byddai dyn, menyw nad yw'n feichiog neu unrhyw weithiwr arall wedi cael eu trin.
Cyfyngiadau ac eithriadau sy'n ymwneud â beichiogrwydd a mamolaeth
Nid yw beichiogrwydd a mamolaeth yn nodwedd warchodedig berthnasol o ran yr ymddygiad gwaharddedig o aflonyddu. Dylai materion aflonyddu sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd gael eu hystyried fel bod yn gyfystyr â thriniaeth anffafriol (gweler y wybodaeth uchod).
Yn ogystal, mae'r Ddeddf yn cynnwys sawl eithriad sydd, mewn rhai amgylchiadau penodol, yn caniatau triniaeth anffafriol oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth fyddai wedi cael ei gwahardd fel arall. Mae'r eithriadau hyn yn cael eu manylu isod.
- Taliadau tu allan i gontract yn ystod absenoldeb mamolaeth
Mae yna eithriad penodol i’w wneud â thalu budd-daliadau sydd ddim yn gytundebol i fenyw ar absenoldeb mamolaeth. Nid oes rhaid i gyflogwr dalu menyw ar absenoldeb mamolaeth buddion nad ydynt yn gytundebol, er enghraifft taliadau bonws yn dibynnu ar ddisgresiwn.
Fodd bynnag, nid yw'r eithriad yn berthnasol i gyflog sy’n gysylltiedig â mamolaeth, boed yn statudol neu gytundebol, os y buasai menyw sydd ar absenoldeb mamolaeth wedi cael hawl iddynt oni bai ei bod ar absenoldeb mamolaeth, megis codiadau cyflog.
- Iechyd a Diogelwch
O dan y Ddeddf, nid yw'n wahaniaethu oherwydd nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth os yw’r weithred a gwynir amdano yn cael ei wneud: -
- i gydymffurfio â chyfraith deddfu cyn y Ddeddf Gwahaniaethu Rhyw 1975;
- i gydymffurfio â ddarpariaeth statudol perthnasol o’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 pe bai'r weithred y cwynir amdano wedi cael ei wneud i amddiffyn y fenyw; neu
- yn unol â gofyniad o ddarpariaeth a bennir yn atodlen 1 o’r Ddeddf Cyflogaeth 1989 (sy'n ymwneud â diogelu merched yn y gwaith).
Mae’n bwysig nodi bod yna gyfreithiau eraill sy'n rheoli iechyd a diogelwch gweithwyr beichiog. Mae cyfreithiau megis y Gyfarwyddeb Gweithwyr Beichiog, rheoliadau 16 a 18 o’r Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 a rheoliad 25 (4) o’r Reoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 yn gosod rhwymedigaethau penodol ar gyflogwyr i ddiogelu iechyd a diogelwch menywod beichiog a merched sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar.
Fel rhan o'u dyletswydd gyffredinol i ystyried risgiau iechyd a diogelwch yn y gweithle dylai unrhyw asesiad o risgiau gymeryd i ystyriaeth y risgiau a berir i fenywod beichiog, menywod sydd wedi rhoi genedigaeth yn ystod y 6 mis diwethaf a menywod sy'n bwydo o’r fron. Hefyd, os yw merch wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig ei bod yn feichiog, wedi rhoi genedigaeth o fewn y 6 mis diwethaf neu yn bwydo o’r fron bydd yn rhaid i gyflogwr ystyried y risgiau a berir i'r fenyw ac, yn bwysig, cymeryd camau i'w hosgoi.
Yn bellach, os nad yw'n rhesymol i wneud newidiadau i ddileu unrhyw risgiau a nodwyd, yna o dan y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 mae gan fenyw yr hawl i gael cynnig swydd addas arall.
Hawliau Beichiogrwydd a Mamolaeth o dan gyfreithiau cyflogaeth eraill
Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd benyw gyda’r nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth hefo hawliadau sy'n gorwedd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ogystal â hawliadau o dan ddeddfwriaeth cyflogaeth eraill. Yn aml mae angen ystyried os yw’n well dilyn y mater o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, o dan ddeddfwriaeth arall neu'r ddau.
Er mwyn eich cynorthwyo mae’r wybodaeth ganlynol yn drosolwg o'r prif hawliadau amgen y mae angen eu hystyried.
Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieni 1999
Pan fo dynes wedi cymryd AMC mae ganddi hawl statudol o dan reoliad 18 o'r Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieni 1999 (RAMR 1999) i ddychwelyd i'r un swydd.
Yn yr un modd o dan reoliad 18 RAMR 1999 lle mae menyw wedi cymryd AMY mae ganddi'r hawl i ddychwelyd i'r un swydd, cyn belled a bod dychwelyd i'r swydd honno yn rhesymol ymarferol. Os nad yw'n ymarferol i ddychwelyd i'r un swydd, bydd ganddi hawl i gael cynnig swydd addas arall ar delerau ac amodau sydd ddim yn llai ffafriol na rhai ei swydd gwreiddiol.
Yn ogystal o dan reoliad 10 RAMR 1999 os bydd merch yn cael ei gwneud yn ddi-waith tra ar absenoldeb mamolaeth statudol, mae ganddi hawl i gael cynnig swydd addas arall. Os nad yw menyw sy'n cael ei gwneud yn ddi-waith yn cael cynnig cyflogaeth amgen addas, yna bydd hyn yn gyfystyr â diswyddo annheg awtomatig o dan reoliad 20 RAMR1999.
O dan reoliad 19 RAMR 1999 ni ddylai gweithiwr cael ei darostwng i anfantais gan unrhyw weithred, neu fethiant bwriadol i weithredu, oherwydd unrhyw un o'r rhesymau canlynol (heb fod yn gynhwysfawr): -
- ei bod yn feichiog
- ei bod wedi rhoi genedigaeth i blentyn
- ei bod wedi cymeryd, ceisio cymryd neu manteisio ar fanteision absenoldeb mamolaeth arferol
- wedi cymryd neu geisio cymryd: -
i. Absenoldeb mamolaeth ychwanegol;
ii. Absenoldeb rhiant; neu
iii. Amser i ffwrdd i ofalu am dibynnydd o dan adran 57A o’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (DHC 1996)
Gweithio Hyblyg
O dan DHC 1996 mae gan fenywod sydd wedi cael eu cyflogi am 26 wythnos yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gweithdrefnau wedi’u gosod sydd yn rhaid i’r gweithiwr a'r cyflogwr gadw atynt, a mae’r rhesymau y gall cais gweithio hyblyg cael ei wrthod wedi eu nodi yn y ddeddfwriaeth.
Yn ddiddorol, nid oes rhaid i gyflogwyr roi rhesymau sylweddol dros wrthod. Mae’n ddigon iddynt ddatgan ar ba un o'r rhesymau a ganiateir mae’r cais wedi cael ei wrthod.
Mae’n bwysig cofio mai hawl i "geisio am" weithio hyblyg yw hyn. Lle mae oriau gwaith ac ati yn rhoi menywod sydd â chyfrifoldebau gofal plant o dan anfantais neu lle mae cais gweithio hyblyg wedi'i wrthod, mae'n bwysig ystyried a allai'r honiad fod yn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw.
Mae hyn yn wir waeth pa mor hir merch mae wedi cael ei chyflogi, a byddai hefyd yn gymwys pan fo'r angen i weithio oriau hyblyg yn cael ei godi yn ystod y broses recriwtio ac fe'i defnyddir fel y cyfan neu ran o'r rheswm dros wrthod cyflogaeth i fenyw.
Hefyd, os na ellir cymryd camau i gael gwared ar risgiau a nodwyd ac nid oes cyflogaeth amgen addas rhaid i gyflogwr atal y ferch o'r gwaith am gyhyd ag sy'n angenrheidiol er mwyn osgoi'r perygl (DHC 1996 a67).
Enghreifftiau:
- Ni ddylai cyflogwr israddio neu ddiswyddo cyflogai, neu wadu cyfleoedd hyfforddiant neu dyrchafiad iddi oherwydd ei bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth.
- Ni ddylai cyflogwr gymryd i ystyriaeth cyfnod absenoldeb gweithiwr oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd wrth wneud penderfyniad am ei chyflogaeth. (Deddf Cydraddoldeb 2010, Nodiadau Esboniadol)
-
At ddibenion darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus, safleoedd, addysg, a chymdeithasau y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) caiff menyw ei gwahaniaethu yn ei herbyn os yw hi’n cael ei thrin yn anffafriol oherwydd ei beichiogrwydd.
Mae menyw yn dioddef gwahaniaethu hefyd yn os yw hi’n cael ei thrin yn anffafriol o fewn cyfnod o 26 wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddodd enedigaeth, oherwydd: -
- mae hi wedi rhoi genedigaeth, neu
- ei bod yn bwydo o’r fron.
Ffordd dda i ystyried ceisiadau o'r fath yw gofyn “oni bai am" y beichiogrwydd / wedi rhoi genedigaeth / bwydo o’r fron, byddai hi wedi cael eu thrin yn llai ffafriol. Os gall ddadlau mai “na fyddai” yw'r ateb, gall y driniaeth fod yn wahaniaethol.
Yn wahanol i hawliau gwahaniaethu rhyw, nid oes angen i ddangos bod y driniaeth yn anffafriol o'i gymharu â sut y byddai dyn, menyw nad yw'n feichiog neu unrhyw weithiwr arall wedi cael eu trin.
Mae'r defnydd o'r term "ei beichiogrwydd" yn golygu nad yw hawliad am wahaniaethu cysylltiadol yn bosibl gyda nodwedd warchodedig beichiogrwydd a mamolaeth. Fodd bynnag, gall triniaeth llai ffafriol oherwydd cysylltiad gyda menyw feichiog neu fenyw sydd yn ddiweddar wedi rhoi genedigaeth arwain at hawliad am wahaniaethu ar sail rhyw.
Os yw'r weithred(au) o driniaeth anffafriol o fenyw oherwydd ei bod wedi rhoi genedigaeth a / ei bod yn bwydo o’r fron yn disgyn y tu allan i'r cyfnod o 26 wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddodd enedigaeth, yna mae angen ystyried a allai'r driniaeth fod yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail rhyw. Er enghraifft, mewn perthynas hefo bwydo o’r fron pan fydd y plentyn yn hŷn na 26 wythnos oed, ni fedr unrhyw driniaeth anffafriol oherwydd bwydo’r plentyn hwnnw o’r fron fod yn gyfystyr â gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd. Fodd bynnag, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn glir bod lle bydd triniaeth anffafriol o fenyw am ei bod yn bwydo o’r fron, ac mae’r baban yn 26 wythnos oed neu'n hŷn, gallai'r driniaeth dal i gael ei ystyried yn anghyfreithlon os yw'n gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw.
Eithriadau sy'n Berthnasol i Wahaniaethu Beichiogrwydd a Mamolaeth
Mae'r Ddeddf yn cynnwys sawl eithriad sydd, mewn rhai amgylchiadau penodol, yn caniatau triniaeth anffafriol oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth fyddai wedi cael ei gwahardd fel arall.
O ran eithriadau sy'n caniatau gwahaniaethu o dan darpariaethau gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus y Ddeddf, gwelwch y wybodaeth berthnasol o dan adran Sector y wefan.
O ran eithriadau sy'n caniatau gwahaniaethu o dan ddarpariaethau Eiddo/Adeiladau y Ddeddf, gweler y wybodaeth berthnasol o dan yr adran Sector y wefan.O ran eithriadau sy'n caniatau gwahaniaethu o dan darpariaethau Addysg: ysgolion y Ddeddf, gweler y wybodaeth berthnasol o dan yr adran Sector y wefan.
O ran eithriadau sy'n caniatau gwahaniaethu o dan darpariaethau Addysg: Pellach ac Uwchradd o'r Ddeddf, gweler y wybodaeth berthnasol o dan yr adran Sector y wefan.
Enghreifftiau:
- Ni ddylai perchennog caffi ofyn i fenyw feichiog adael ei gaffi am ei bod yn bwydo baban o’r fron.
- Ni ddylai siopwr wrthod gwerthu sigarennau i fenyw oherwydd ei bod yn feichiog.
- Ni ddylai ysgol atal disgybl rhag sefyll arholiad oherwydd ei bod yn feichiog. (Deddf Cydraddoldeb 2010, Nodiadau Esboniadol)
Cam 3: Dewiswch 'Ymddygiad Gwaharddedig'
-
Gwahaniaethu uniongyrchol yw pan fydd cyflogwr, darparwr gwasanaeth neu ddarparwr addysg a.y.y.b. yn trin rhywun yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig, i gymharu â pherson arall mewn amgylchiadau tebyg. Mae'r diffiniad o wahaniaethu uniongyrchol yn ddigon eang i gynnwys achosion lle mae'r driniaeth llai ffafriol oherwydd cysylltiad y dioddefwr gyda rhywun sydd â nodwedd warchodedig neu oherwydd bod rhywun yn meddwl bod y dioddefwr hefo nodwedd warchodedig.
Mae rhai amgylchiadau lle gall gwahaniaethu uniongyrchol gael ei gyfiawnhau fel ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon; adnabyddir hyn fel cyfiawnhad gwrthrychol.Mae eithriadau hefyd yn bodoli sy'n caniatau clybiau a chymdeithasau i roi triniaeth ffafriol i aelodau a gwesteion mewn grŵp oedran penodol.
Nid yw'n bosibl i ni gynnwys pob sefyllfa bosibl yma. Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg, yna dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb am gefnogaeth a chyngor ar eich opsiynau.
Beth yw triniaeth llai ffafriol?
Gallai triniaeth llai ffafriol cael ei ddisgrifio fel triniaeth sy'n achosi niwed neu anfantais i berson, o'i gymharu i berson arall. Gall enghreifftiau o driniaeth llai ffafriol gynnwys diswyddo, camau disgyblu, gwrthod gwasanaeth neu cael eich diarddel a.y.y.b. Fodd bynnag, gellid triniaeth llai amlwg fel anghefnogi gweithiwr, trin eraill yn fwy ffafriol neu gwahanu staff hefyd gael eu cynnwys.
Digwyddodd y driniaeth llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig?
Yr elfen allweddol mewn ceisiadau gwahaniaethu uniongyrchol yw sefydlu y rheswm dros y driniaeth llai ffafriol. Mae’r Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn mabwysiadu dull synnwyr cyffredin, sef gofyn beth oedd "achos wirioneddol ac effeithlon" y driniaeth a gwynir amdano.
Mewn rhai amgylchiadau fydd yn amlwg bod y driniaeth wedi digwydd oherwydd nodwedd warchodedig. Fodd bynnag, mewn achosion eraill, bydd angen edrych yn fanwl ar pam bod y cyflogwr, darparwyr gwasanaethau, darparwr addysg a.y.y.b. wedi trin yr unigolyn yn llai ffafriol. Nid oes angen profi bod cyflogwr, darparwyr gwasanaeth, darparwr addysg a.y.y.b. wedi bwriadu, neu wedi cael cymhelliad i drin rhywun yn llai ffafriol (unai yn ymwybodol neu isymwybodol) oherwydd nodwedd warchodedig i ddangos gwahaniaethu uniongyrchol.
Yn ogystal, nid oes angen i’r nodwedd warchodedig fod yr unig reswm dros y driniaeth, ond bydd angen i'r nodwedd warchodedig gael ei brofi fel bod yn reswm sylweddol (sy'n golygu mwy na dibwys) ar gyfer y driniaeth.
Mae hefyd yn bwysig nodi bod yn rhaid i driniaeth afresymol neu wael gael ei wahanu o driniaeth llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig. Nid yw'r ffaith bod person wedi cael ei drin yn anheg neu'n afresymol o reidrwydd yn brawf o wahaniaethu.
Yn yr un modd, nid yw gwahaniaeth mewn triniaeth rhwng dau o bobl sydd â nodweddion warchodedig wahanol, ar ei ben ei hun, yn ddigon i brofi bod y driniaeth llai ffafriol y cwynir amdani oherwydd nodwedd warchodedig.Pwy yw’r cymharydd ar gyfer y driniaeth llai ffafriol?
Mae'n aml yn wir y bydd raid i berson sydd wedi cael ei drin yn llai ffafriol nodi cymharydd i helpu i ddangos eu bod wedi dioddef gwahaniaethu uniongyrchol .
Gall y cymharydd fod yn berson wirioneddol neu ddamcaniaethol. Yr elfen allweddol ar gyfer sefydlu'r cymharydd ar gyfer y driniaeth llai ffafriol yw na all yr amgylchiadau lle gododd y driniaeth llai ffafriol bod yn sylweddol wahanol.
Pwrpas enwi cymharydd mewn cais o wahaniaethu uniongyrchol yw i helpu i brofi bod y driniaeth llai ffafriol wedi digwydd oherwydd nodwedd warchodedig. Os yw person wedi cael ei drin yn llai ffafriol na rhywun arall, yn yr un amgylchiadau neu amgylchiadau tebyg, a nid yw'r person yn rhannu eu nodwedd warchodedig, yna mae’r driniaeth yn edrych yn debyg i fod oherwydd nodwedd warchodedig.
Felly, mae’r rheswm/rhesymau dros y driniaeth llai ffafriol yn hanfodol bwysig. Dylai amgylchiadau a phriodoleddau cymharydd perthnasol - cyn belled ag y bo modd – adlewyrchu’r amgylchiadau a phriodoleddau sy'n berthnasol i'r rheswm dros driniaeth y person sydd yn honni gwahaniaethu uniongyrchol.
Enghreifftiau:
- Os yw cyflogwr yn recriwtio dyn yn hytrach na menyw oherwydd ei bod yn cymeryd yn ganiataol nad yw merched hefo’r nerth i wneud y gwaith, byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw.
- Os yw siopwr Mwslimaidd yn gwrthod rhoi gwasanaeth i fenyw Mwslimaidd oherwydd ei bod yn briod â Cristion, byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol i’w wneud a crefydd neu gred ar sail ei chysylltiad gyda'i gŵr.
- Os yw cyflogwr yn gwrthod ffurflen gais am swydd gan ddyn gwyn, a mae’r cyflogwr yn credu, yn anghywir, fod yr ymgeisydd yn ddu oherwydd bod ei enw yn swnio’n Affricanaidd, byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol i’w wneud a hil ar sail canfyddiad camgymryd y cyflogwr.
- Os yw cyflogwr sydd yn hysbysebu swydd wag yn ei wneud yn glir yn yr hysbyseb nad oes angen i Roma geisio am y swydd, byddai hyn yn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail hil yn yn erbyn person Roma a fuasai wedi gallu ystyried yn rhesymol gwneud cais am y swydd, ond wedi cael eu rhwystro rhag gwneud oherwydd yr hysbyseb.
- Os yw rheolwr clwb nos yn cael ei ddisgyblu am wrthod gweithredu cyfarwyddyd i wahardd cwsmeriaid hŷn o'r clwb, byddai hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail oed yn erbyn y rheolwr os na ellid cyfiawnhau'r cyfarwyddyd.
Gwahaniaethu Uniongyrchol drwy Gysylltiad a Chanfyddiad
Cysylltiad
Gwahaniaethu cysylltiadol yw pan fo person yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd eu cysylltiad hefo person sydd â nodwedd warchodedig. Mae’r enghraifft fwyaf adnabyddus o wahaniaethu cysylltiadol i’w wneud â gweithiwr a cafodd eu diswyddo oherwydd eu bod wastad yn cymeryd amser i ffwrdd o'u swydd i ofalu am eu plentyn anabl.
Enghreifftiau:
- Mae’n rhaid i dad unigol sydd yn gofalu am ei fab anabl gymeryd amser i ffwrdd o'r gwaith pryd bynnag mae ei fab yn sâl neu hefo apwyntiadau meddygol. Mae'n ymddangos nad yw’r cyflogwr yn hapus am y ffaith bod angen i'r gweithiwr ofalu am ei fab, ac yn y pendraw mae yn ei ddiswyddo. Efallai y bydd y diswyddo yn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd yn erbyn y gweithiwr trwy ei gysylltiad gyda'i fab.
- Mae rheolwr yn trin gweithiwr (sy'n wahanrywiol) yn llai ffafriol oherwydd ei bod wedi cael ei gweld allan gyda rhywun sy'n hoyw. Gallai hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol yn erbyn y gweithiwr oherwydd ei chysylltiad gyda'r person hwn.
Canfyddiad
Gwahaniaethu drwy ganfyddiad yw pan fo person yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd nodwedd a gredir (yn anghywir) bod gan yr unigolyn. Gallai hyn gynnwys cael ei ystyried yn anghywir i fod yn hoyw neu'n lesbiaidd neu cael eu credu yn anghywir i fod o ffydd benodol.
Enghreifftiau:
- Mae cyflogwr yn gwrthod cais am swydd gan fenyw wen y mae yn credu yn anghywir i fod yn ddu, oherwydd bod yr ymgeisydd hefo enw sy'n swnio'n Affricanaidd. Gall hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail hil oherwydd canfyddiad camgymryd y cyflogwr.
- Mae menyw sydd â llais 'hysgi' yn galw ei banc i drosglwyddo arian o un cyfrif i'r llall. Mae hi'n cael ei gofyn i fynd drwy gwiriadau diogelwch ychwanegol gan yr ymgynghorydd bancio gan ei fod yn credu ei bod yn drawsrywiol. Mae'r ymgynghorydd bancio yn gwrthod trosglwyddo'r arian er bod y ferch wedi cwblhau'r holl wiriadau diogelwch yn llwyddiannus. Efallai y bydd gan y fenyw gais am wahaniaethu uniongyrchol oherwydd ailbennu rhywedd canfyddedig er nad yw hi yn drawsrywiol.
-
Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fo cyflogwr, darparwr gwasanaeth, darparwr addysg ac ati yn defnyddio darpariaeth, safon neu ymarfer sy'n ymddangos yn niwtral, a sydd yn rhoi pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig dan anfantais.
I ddangos bod gwahaniaethu anuniongyrchol wedi digwydd bydd yn rhaid i 4 o ofynion gael eu bodloni: -
- Mae'r cyflogwr, darparwr gwasanaeth, darparwr addysg a.y.y.b. yn defnyddio (neu yn mynd i ddefnyddio) darpariaeth, safon neu ymarfer (DSY) yn gyfartal i bawb o fewn grŵp perthnasol (h.y. mae’r DSY yn berthnasol i bawb yn niwtral).
- Mae’r DSY yn rhoi (neu byddai yn rhoi) pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol i gymharu â phobl nad oes ganddynt y nodwedd warchodedig (h.y. anfantais cyffredinol);
- Byddai’r DSY yn rhoi (neu byddai yn rhoi) unigolyn â'r nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol (h.y. anfantais bersonol); a
- Na all y cyflogwr, darparwr gwasanaeth, darparwr addysg a.y.y.b. ddangos bod y DSY yn ddull cymesur o gyflawni nod cyfreithlon (h.y. cyfiawnhad gwrthrychol).
Gofyniad 1: Mae’r DSY Yn Berthnasol yn Niwtral i Bawb
Gallai darpariaeth fod yn amod neu ofyniad megis term cytundebol ffurfiol; gallai fod yn bolisïau sydd ddim yn gytundebol, neu gallai fod yn rheolau a chanllawiau cyffredinol.
Gallai safon fod yn fanyleb swydd sydd yn cael ei ddefnyddio wrth recriwtio neu i wneud penderfyniadau ynglŷn â hyrwyddiadau neu fonysau; gallai fod yn ffactorau a ddefnyddir wrth benderfynu a ddylid disgyblu neu ddiswyddo cyflogeion.
Mae ymarfer yn fwy anffurfiol a gall gynnwys pob un o'r uchod lle nad yw'r darpariaethau a'r safonau wedi cael eu gosod i lawr yn ffurfiol; gallai fod yn benderfyniad unwaith ac am byth neu benderfyniad yn dibynnu ar ddisgresiwn, a gall gynnwys penderfyniadau i wneud rhywbeth yn y dyfodol.
Mae’n hanfodol bwysig bod y DSY yn berthnasol (neu y byddai berthnasol) yn yr un modd i bawb o fewn grŵp perthnasol, boed ganddynt y nodwedd warchodedig o dan sylw neu beidio. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i'r DSY fod yn niwtral.
Enghraifft: Mae perchennog ffatri yn cyhoeddi o fis nesaf bydd yn rhaid i bob aelod gwryw o staff fod wedi eu heillio'n lân (“clean-shaven”). Mae hyn yn enghraifft o bolisi nad yw wedi ei weithredu eto ond y gellir ei ystyried fel darpariaeth, safon neu ymarfer. Mae’r penderfyniad i gyflwyno'r polisi yn gwahaniaethu yn anuniongyrchol oherwydd crefydd neu gred, gan ei fod yn rhoi gweithwyr Sikh y cyflogwr o dan anfantais. Mae'n rhaid i'r cyflogwr ddangos y gall y ddarpariaeth, safon neu ymarfer gael ei gyfiawnhau'n wrthrychol.
Gofyniad 2: Anfantais Cyffredinol
Mae'r ail elfen o wahaniaethu anuniongyrchol yn ei gwneud yn ofynnol i berson brofi bod grŵp o bobl sy'n rhannu eu nodwedd warchodedig yn cael eu rhoi, neu a fyddai'n cael eu rhoi, o dan anfantais benodol gan y DSY o'i gymharu â grŵp o bobl nad ydynt yn rhannu eu nodwedd warchodedig.
Yn dilyn o adnabod y DSY mae hi wedyn yn hanfodol i nodi'r holl bobl y mae'r DSY yn berthnasol iddynt, neu y gallai fod yn berthnasol iddynt. Dyma’r hyn a elwir yn gyffredin fel "y pwll cymhariaeth".
Dylai'r pwll gymhariaeth gynnwys yr holl bobl y mae'r DSY yn effeithio (neu a fyddai'n effeithio), os yw'r effaith unai yn bositif neu’n negyddol. Ni ddylai'r pwll gael ei gyfyngu i ddim ond y rhai sydd dan anfantais, gan nad yw hyn yn gadael lle i dadansoddi a yw'r grŵp gyda'r nodwedd warchodedig yn dioddef mwy o ganlyniad y DSY i gymharu â'r grŵp sydd ddim yn rhannu'r nodwedd warchodedig. Yn yr un modd ni ddylai’r pwll cymhariaeth gynnwys pobl nad ydynt yn cael eu heffeithio o gwbl gan y DSY.
Unwaith mae pwll cymharaeth wedi cael ei adnabod, gallwch symud ymlaen i sefydlu a yw'r grŵp mae'r person yn perthyn iddo wedi, neu a fyddai wedi, eu rhoi dan anfantais benodol gan y DSY.
Yn gyffredin, gwneir hyn trwy ddull ystadegol. Fodd bynnag, nid dyma'r unig ddull a gall tribiwnlys fod yn barod i gymryd i ystyriaeth wybodaeth gyffredin neu gyffredinol y bydd pobl â nodweddion gwarchodedig penodol yn dioddef mwy o anfantais na'r rhai heb y nodwedd warchodedig.
Fodd bynnag, rhaid cymeryd gofal os yw’r dull hwn yn cael ei fabwysiadu i sicrhau nad yw gwybodaeth neu ffeithiau a dderbynnir yn gyffredinol yn unig yn dybiaethau cyffredinol sydd wedi eu dyddio ac / neu yn seiliedig ar gredoau ystrydebol neu rhagfarnllyd.
Dull a ddefnyddir yn rheolaidd gan y Tribiwnlys Cyflogaeth yw gofyn y cwestiynau canlynol: -
- pa gyfran o'r pwll sydd â'r nodwedd warchodedig berthnasol o dan sylw?;
- pa gyfran o'r pwll sydd heb y nodwedd warchodedig berthnasol o dan sylw?;
- faint o'r bobl yn y pwll gyda’r nodwedd warchodedig perthnasol
sydd wedi (neu fuasai wedi) cael eu heffeithio gan y DSY?; a - faint o'r bobl o fewn y pwll sydd heb y nodwedd warchodedig berthnasol ond wedi cael (neu fuasai wedi cael) eu heffeithio gan y DSY?
Bydd yr atebion i'r cwestiynau hyn yn rhoi’r nifer y bobl o fewn y grwpiau breintiedig a difreintiedig sydd angen i chi gymharu.
Os yw nifer neu gyfran y bobl sydd â'r nodwedd perthnasol sydd, neu a fuasai, wedi eu effeithio gan y DSY yn uwch na neu'n fwy na'r nifer neu gyfran heb y nodwedd warchodedig berthnasol sydd, neu a fyddai, wedi eu heffeithio, byddai’r elfen hon o wahaniaethu anuniongyrchol wedi’i fodloni.
Enghraifft:
Mae mam sengl i ddau o blant ifanc yn cael ei gorfodi i ymddiswyddo o'i swydd fel gyrrwr trên pan na all hi gydymffurfio â system shifft newydd ei chyflogwyr. Mae'r patrwm shifft yn ddarpariaeth, safon neu ymarfer sy'n achosi anfantais arbennig i'r fam sengl. Mewn hawliad o wahaniaethu anuniongyrchol, mae’n rhaid i Dribiwnlys Cyflogaeth gynnal ymarfer cymharol i benderfynu os yw'r system shifft yn rhoi (neu fyddai yn rhoi) gweithwyr sy'n rhannu ei nodwedd warchodedig o ryw o dan anfantais benodol o'u cymharu â dynion.Penderfynodd y tribiwnlys cyflogaeth i ddefnyddio fel pwll cymharaeth yr holl yrwyr trenau oedd yn gweithio i'r un cyflogwr . Mae yna 20 o yrwyr trenau benywaidd , tra bod yna 2,000 yn ddynion. Mae'n cael ei dderbyn fel gwybodaeth cyffredin bod dynion yn llawer llai tebygol na menywod i fod yn rhieni sengl gyda chyfrifoldebau gofal plant.
- O'r 2,000 o yrwyr gwrywaidd, nid yw dau yn gallu cydymffurfio â'r system shifft newydd . Mae hyn yn cael ei fynegi fel cyfran o 0.001.
- O'r 20 o yrwyr trenau benywaidd , mae pump sydd yn methu cydymffurfio â'r system shifft newydd . Mae hyn yn cael ei fynegi fel cyfran o 0.25.
Mae'n glir bod cyfran uwch o yrwyr merched ( 0.25 ) na gyrwyr gwrywaidd ( 0.001 ) yn methu cydymffurfio â'r system shifft.
Gan gymryd hyn i gyd i ystyriaeth, penderfynodd y Tribiwnlys Cyflogaeth bod gyrwyr trenau benywaidd o gymharu â'u cymheiriaid gwrywaidd yn cael eu rhoi o dan anfantais benodol gan y system shifft. ( London Underground Ltd v Edwards )
Gofyniad 3: Anfantais Bersonol
Caiff y gofyniad ei fodloni os gall unigolyn ddangos eu bod nhw, fel unigolyn sydd â'r nodwedd warchodedig berthnasol, wedi dioddef neu gallant ddioddef anfantais benodol oherwydd y DSY.
Enghraifft: Ni all merch honni bod patrwm shifft newydd yn ei swydd yn gwahaniaethu'n anuniongyrchol oherwydd bod y DSY yn gosod merched gyda chyfrifoldebau gofal plant o dan anfantais os nad oes ganddi hi gyfrifoldebau gofal plant.
Gofyniad 4: Cyfiawnhaud Gwrthrychol
Os all y tri gofyniad uchod gael eu sefydlu, yna bydd y cwestiwn yn newid i fedr y DSY gael ei gyfiawnhau yn wrthrychol gan y cyflogwr, y darparwr gwasanaeth neu'r darparydd addysg a.y.y.b. Bydd y gallu i gyfiawnhau'r DSY yn wrthrychol yn dibynnu os ellir profi bod y DSY yn ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon.
Dylai nod y DSY fod yn gyfreithiol, ni ddylai fod yn wahaniaethol ynddo'i hun ac mae'n rhaid iddo gynrychioli ystyriaeth wir a gwrthrychol. Gall anghenion rhesymol busnes ac effeithlonrwydd economaidd fod yn nodau dilys. Fodd bynnag, ni fydd cyflogwr yn anelu yn unig at leihau costau yn debygol o fodloni'r prawf. Gall nod gyfreithlon hefyd deillio o ddyletswydd statudol sydd yn rhaid cydymffurfio gydag ef.
Hyd yn oed os yw'r nod yn un cyfreithlon, mae’n rhaid i'r ffordd o’i gyflawni fod yn gymesur. Mae cyfraith yr UE yn gweld triniaeth yn gymesur os yw'n ddull 'briodol ac angenrheidiol' o gyflawni nod cyfreithlon. Ond nid yw 'angenrheidiol' yn golygu bod y ddarpariaeth, safon neu ymarfer yr unig ffordd bosibl o gyflawni'r nod cyfreithlon; mae'n ddigon na allai'r un nod gael ei gyflawni trwy dulliau llai gwahaniaethol.Mae penderfynu os yw'r dulliau a ddefnyddir i gyrraedd y nod cyfreithlon yn gymesur yn golygu ymarfer o cydbwyso. Bydd angen gwerthusiad priodol o effaith wahaniaethol y ddarpariaeth, safon neu ymarfer, yn erbyn rhesymau y cyflogwr ar gyfer ei ddefnyddio, gan ystyried yr holl ffeithiau perthnasol.
Enghraifft: Fel mesur arbed costau, mae cyflogwr yn gofyn i'r holl staff weithio diwrnod llawn ar ddydd Gwener, er mwyn i archebion y cwsmeriaid i gyd gael eu prosesu ar yr un diwrnod. Mae'r polisi hwn yn rhoi gweithwyr Iddewig sylwgar o dan anfantais penodol yn ystod misoedd y gaeaf gan eu hatal rhag mynd adref yn gynnar i arsylwi y Saboth, a gallai olygu gwahaniaethu anuniongyrchol os na ellir ei gyfiawnhau yn wrthrychol. Nid yw’r nod unigol o leihau costau yn un dilys, felly ni all y cyflogwr ddadlau yn unig bod gwahaniaethu yn rhatach nag osgoi gwahaniaethu.
-
Diffinnir aflonyddu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) fel ymddygiad digroeso yn ymwneud â nodwedd warchodedig sydd â'r pwrpas neu effaith, o unai: -
- darfu ar urddas person; neu
- greu amgylchedd diraddiol, bygythiol, ymosodol, bychanol neu sarhaus
Pryd fydd aflonyddu ddim yn ymddygiad gwaharddedig perthnasol?
Nid yw aflonyddu yn ymddygiad gwaharddedig perthnasol o ran y nodweddion gwarchodedig beichiogrwydd a mamolaeth a phriodas a phartneriaeth sifil, beth bynnag fo'r sector.
O ran rhai sectorau penodol, yna ni fydd crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol yn nodweddion gwarchodedig perthnasol mewn perthynas ag aflonyddu mewn achosion gwasanaethau a swyddogaeth gyhoeddus; achosion adeiladau/eiddo; neu achosion cymdeithasau.
Hefyd, nid yw ailbennu rhywedd, crefydd neu gred na chyfeiriadedd rhywiol yn nodweddion gwarchodedig perthnasol at ddibenion achosion ysgolion.
* Yn yr amgylchiadau uchod pan na fedrwch ddadlau aflonyddu, yna efallai gellid ei ddadlau fel gwahaniaethu uniongyrchol. Gwelwch yr adran ar y wefan sy'n ymwneud a’r ymddygiad waharddedig o wahaniaethu uniongyrchol
Beth yw ymddygiad digroeso?
Mae ymddygiad digroeso yn cwmpasu amrywiaeth eang o ymddygiad, gan gynnwys er enghraifft, geiriau neu gamdriniaeth llafar neu ysgrifenedig, lluniau, graffiti, ystumiau corfforol, mynegiant gwynebol, dynwared, jôcs, pranciau neu ymddygiad corfforol arall (nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr).
Pryd fydd gan yr ymddygiad digroeso y pwrpas neu effaith o darfu ar urddas neu greu amgylchedd diraddiol, bygythiol, ymosodol, bychanol neu sarhaus?
Bydd yn rhaid i’r ymddygiad digroeso unai fod wedi:-
- ei fwriadu i darfu ar urddas neu greu amgylchedd diraddiol, bygythiol, ymosodol, bychanol neu sarhaus ; neu
- cael yr effaith o darfu ar urddas neu greu amgylchedd diraddiol, bygythiol, ymosodol, bychanol neu sarhaus.
Mae'r Ddeddf yn benodol yn rhestru nifer o ffactorau y dylid eu hystyried wrth benderfynu a yw ymddygiad digroeso wedi cael y pwrpas neu'r effaith o darfu ar urddas neu greu amgylchedd diraddiol, bygythiol, ymosodol, bychanol neu sarhaus. Y ffactorau hyn yw:-
- canfyddiad y person sydd wedi bod yn destun i ymddygiad digroeso;
- holl amgylchiadau perthnasol eraill yr achos; a
- a yw'n rhesymol i'r ymddygiad gael effaith
O ran penderfynu os oedd yr ymddygiad digroeso hefo’r pwrpas o darfu ar urddas neu greu amgylchedd diraddiol, bygythiol, ymosodol, bychanol neu sarhaus, yna bydd bwriad yr aflonyddwr o’r pwysigrwydd mwyaf. Y cwestiwn allweddol yw a oedd yr ymddygiad wedi ei gynllunio i/ wedi ei fwriadu i darfu ar urddas neu greu amgylchedd diraddiol, bygythiol, ymosodol, bychanol neu sarhaus. Nid oes ots os na chafodd hyn yr effaith a ddymunir; y bwriad sydd yn allweddol.
Wrth ystyried a yw'r ymddygiad digroeso mewn gwirionedd wedi cael yr effaith o darfu ar urddas neu greu amgylchedd diraddiol, bygythiol, ymosodol, bychanol neu sarhaus, mae’r cwestiwn o os yw'r ymddygiad wedi cael yr effaith yn brawf gwrthrychol (nid yn oddrychol).
Tra fydd canfyddiad a theimladau'r person sydd wedi bod yn ddarostyngedig i'r ymddygiad dan sylw yn cael eu cymryd i ystyriaeth, yr ystyriaeth pwysicaf yw a all yr ymddygiad gael ei ystyried yn rhesymol i fod wedi cael yr effaith. Mae hyn, i’w roi yn syml, yn brawf a yw'r unigolyn yn bosibl yn rhy sensitif neu yn gor-ymateb.
Wrth asesu effaith yr ymddygiad digroeso, bydd y cyd-destyn a’r amgylchiadau y digwyddodd ynddynt bob amser yn berthnasol iawn hefyd. Mae profiad bob dydd yn dweud wrthym y gall sylw doniol rhwng ffrindiau gael effaith wahanol i’r union un eiriau wedi eu dweud yn sbeitlyd.Enghraifft: O flaen ei chydweithwyr gwrywaidd, mae goruchwyliwr yn dweud wrth beiriannydd benywaidd bod ei gwaith yn is na'r safon ac, fel menyw, ni fydd hi byth yn gwneud mecanic cymwys. Mae ei goruchwyliwr wedyn yn mynd ymlaen i ddweud y dylai hi aros gartref a magu babanod. Gallai hyn fod yn aflonyddu yn ymwneud â rhyw, gan fod y datganiad ei hun yn ddigroeso ac y gallai'r mecanic wrthwynebu cyn iddo gael ei ystyried fel aflonyddu anghyfreithlon.
Beth mae "yn ymwneud â nodwedd warchodedig" yn ei olygu?
Mae gan y term "yn ymwneud â nodwedd warchodedig" ystyr eang a gall hyd yn oed gynnwys sefyllfaoedd lle nad oes gan y person sy'n destun i’r aflonyddu y nodwedd warchodedig sydd i’w wneud â’r ymddygiad digroeso. Mae dwy senario eang lle y gall aflonyddu gael ei ystyried i fod yn "gysylltiedig â nodwedd warchodedig". Esbonir rhain isod:-
- os yw'r ymddygiad digroeso yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig y person ei hun
- lle mae unrhyw gysylltiad â nodwedd warchodedig
Mae “unrhyw gysylltiad â nodwedd warchodedig" yn golygu nad oes raid i'r person gael y nodwedd warchodedig y mae'r ymddygiad digroeso yn ymwneud ag ef. Felly gallai aflonyddu ddigwydd pan fo unigolyn yn destun ymddygiad digroeso oherwydd eu cysylltiad â rhywun sydd â nodwedd warchodedig.
Gall aflonyddu hefyd ddigwydd pan fo unigolyn yn cael ei weld yn anghywir fel cael nodwedd warchodedig, neu lle mae pobl yn gwybod nad oes gan yr unigolyn y nodwedd warchodedig, ond er hynny mae’n destun i ymddygiad digroeso sy'n gysylltiedig â'r nodwedd warchodedig hynny.
Yn ogystal, Gallai aflonyddu hefyd ddigwydd lle nad yw'r ymddygiad digroeso yn cael ei gyfeirio at unigolyn ond at berson arall, neu neb yn benodol ond mae unigolyn yn cymryd trosedd.
Enghreifftiau:
- Os bydd gweithiwr gyda ffrâm gerdded yn cael ei gam-drin yn llafar oherwydd y ffordd y mae'n cerdded gyda'i ffrâm, gallai hyn fod yn aflonyddu yn gysylltiedig â'i anabledd. (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cod Ymarfer)
- Yn ystod sesiwn briffio a fynychwyd gan bob gweithwr, mae'r hyfforddwr gwrywaidd yn gwneud nifer o sylwadau o natur rywiol i'r grŵp cyfan. Mae gweithiwr benywaidd yn teimlo bod y sylwadau yn sarhaus a diraddiol iddi hi fel menyw. Byddai hi'n gallu gwneud cais am aflonyddu, er nad oedd y sylwadau wedi eu cyfeirio ati hi. (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cod Ymarfer)
Aflonyddu Rhywiol
Yn syml, dyma pryd mae'r ymddygiad digroeso o natur rywiol. Bydd aflonyddu rhywiol hefyd yn anghyfreithlon os, oherwydd gwrthod neu ymddarostyngiad person i ymddygiad digroeso o natur rywiol, maent yn cael eu trin yn llai ffafriol nag y byddent wedi bod pe na baent wedi gwrthod neu ymddarostwng i'r ymddygiad.
Enghraifft: Mae cadwr siop yn gwneud cynig rywiol i un o'i gynorthwyr. Mae hi'n gwrthod ei gynnig ac yn hwyrach yn cael ei throi i lawr ar gyfer dyrchafiad y mae hi'n credu y byddai wedi gael pe bai hi wedi derbyn cynnig ei bos. Byddai gan y cynorthwyr siop honiad o aflonyddu. (Deddf Cydraddoldeb 2010, Nodiadau Esboniadol)
-
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) mae erledigaeth yn digwydd pan fydd cyflogwr, darparwr gwasanaeth, darparwr addysg a.y.y.b. yn darostwng rhywun i niwed oherwydd eu bod wedi gwneud, neu y gallant wneud, ‘gweithred gwarchodedig’.
Mae’r Ddeddf yn diffinio pob un o’r canlynol fel ‘gweithred gwarchodedig’:-
- dod ag achos o dan y Ddeddf;
- rhoi tystiolaeth neu wybodaeth mewn cysylltiad ag achos o dan y Ddeddf;
- gwneud unrhyw beth arall at ddibenion y Ddeddf neu mewn cysylltiad â hi; neu
- gwneud honiad (wedi ei fynegi neu beidio) bod person wedi torri i’r Ddeddf.
Ydi ‘gweithred gwarchodedig’ wedi cael ei wneud?
Er ei fod yn gyffredinol yn wir bod y weithred gwarchodedig i’w wneud â triniaeth wahaniaethol honedig yn erbyn yr unigolyn ei hun, nid oes angen i'r gweithred gwarchodedig fod mewn perthynas â chwyn bod hwy eu hunain wedi cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn. Felly, gallai person gael ei erlid os cafodd y weithred gwarchodedig ei wneud mewn perthynas i drydydd person a triniaeth wahaniaethol honedig o’r trydydd person yna.
Mae’n bwysig nodi nad yw o reidrwydd angen bod gweithred gwarchodedig wedi cael ei wneud; mae'n ddigon bod y cyflogwr, darparwr gwasanaethau, darparwr addysg ac ati yn credu bod y weithred gwarchodedig wedi cael ei wneud, neu yn credu y bydd gweithred gwarchodedig yn cael ei wneud.
Mae’n rhaid i weithred gwarchodedig gael ei wneud yn ddidwyll. Fodd bynnag, os (er enghraifft) bydd honiad yn cael ei brofi yn ddiweddarach i fod yn ddi-sail, yn ffeithiol anghywir neu bod llys neu dribiwnlys yn profi nad oedd triniaeth yn wahaniaethol, bydd y honiad yn dal i gael ei ystyried yn weithred gwarchodedig. Nid oes rhaid i chi gael cwyn gwahaniaethu profadwy ar gyfer i’r gweithred gael ei ystyried yn weithred gwarchodedig.A yw'r person wedi cael eu darostwng i niwed oherwydd y weithred gwarchodedig?
Nid yw ystyr niwed yn cael ei ddiffinio yn y Ddeddf, ond mae’n cael ei weld yn gyffredinol fel unrhyw beth y gallai'r person sy'n hawlio erledigaeth ddadlau yn rhesymol fel newid eu sefyllfa er gwaeth neu fel eu rhoi o dan ryw anfantais.
Y mater allweddol yw profi bod y niwed a ddioddefir gan yr unigolyn oherwydd y gweithred gwarchodedig. Mae angen profi bod y rheswm dros y niwed o leiaf yn rhannol o ganlyniad i'r gweithred gwarchodedig.
Nid oes ots faint o amser sydd wedi mynd heibio rhwng gwneud y gweithred gwarchodedig a'r driniaeth niweidiol; yn syml, mae’n parhau i fod yn wir y byddai angen i'r unigolyn i ddangos y cysylltiad rhwng y niwed a'r gweithred gwarchodedig.
Enghreifftiau:
Erledigaeth mewn Gwasanaethau: Mae dyn hoyw yn mynd a tafarnwr i’r llys am wahaniaethu am ei bod hi'n gwneud sylwadau diraddiol parhaus i gwsmeriaid eraill am ei gyfeiriadedd rhywiol. Oherwydd hyn, mae'r tafarnwr yn ei wahardd wrth y dafarn yn gyfan gwbl. Byddai hyn yn erledigaeth. (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cod Ymarfer)Erledigaeth o ddisgyblion: Mae rhiant disgybl yn cwyno i'r ysgol bod ei merch yn dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw drwy beidio cael cymryd rhan mewn dosbarth gwaith metel. Mae'r ferch wedi ei diogelu rhag cael eu trin yn llai ffafriol gan yr ysgol mewn unrhyw ffordd oherwydd y gŵyn hon. (Deddf Cydraddoldeb 2010, Nodiadau Esboniadol)
Erledigaeth o weithwyr: Mae gweithiwr sydd ddim yn anabl yn rhoi tystiolaeth ar ran cydweithiwr anabl mewn gwrandawiad tribiwnlys cyflogaeth lle mae gwahaniaethu yn deillio o anabledd yn cael ei hawlio. Os yw'r gweithiwr sydd ddim yn anabl wedyn yn cael ei wrthod dyrchafiad oherwydd y weithred, byddent wedi dioddef erledigaeth yn groes i'r Ddeddf. (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cod Ymarfer)
-
Bydd gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd yn berthnasol lle mae cyflogwr, darparwr gwasanaeth, darparwr addysg ayyb yn trin person anabl yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy'n codi o ganlyniad i'w anabledd, ac ni all y driniaeth anffafriol yn cael ei ddangos i fod yn ffordd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon.
Nid yw gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd yn berthnasol lle nad yw'r cyflogwr, darparwr gwasanaeth, y darparwr addysg ayyb yn gwybod, ac na ellid fod yn rhesymol i ddisgwyl iddo wybod, bod gan unigolyn anabledd.
Beth yw triniaeth anffafriol?
Driniaeth yn ei hanfod yn anffafriol yn lle mae unigolyn wedi profi neu wedi dioddef rhyw fath o driniaeth niweidiol / anfantais. Gallai hyn fod yn amlwg, fel diswyddo neu wrthod gwasanaeth neu atal dros dro o'r ysgol, ond gallai hefyd gymryd ffurf lai amlwg fel tybiaethau neu pryderon am iechyd a diogelwch.
Mae'r iaith a ddefnyddir yng ngeiriad ymddygiad gwaharddedig hwn, sef y newid i ddefnyddio "triniaeth anffafriol" yn hytrach na "driniaeth llai ffafriol" (fel y mae'n ei eirio â gwahaniaethu uniongyrchol) yn arwyddocaol gan ei fod yn dangos nad oes angen cymharydd mewn achosion lle mae gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd yw'r ymddygiad gwaharddedig perthnasol.
Pryd mae triniaeth anffafriol oherwydd rhywbeth sy'n deillio o ganlyniad i anabledd?
Mae'n rhaid i'r rheswm(au) dros y driniaeth anffafriol yn cael ei brofi fel " oherwydd rhywbeth sy'n codi o ganlyniad i'w anabledd" . Mae'n bwysig cofio bod y ymddygiad gwaharddedig dim ond yn berthnasol os yw'r gwahaniaethwr yn gwybod , neu ddylai nhw’n wedi fod yn rhesymol i gwybod , bod yr unigolyn yn berson anabl.
I brofi gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd , mae'n hanfodol bod y rheswm dros y driniaeth neu a oedd oherwydd y rhywbeth sy'n codi o ganlyniad i anabledd yr unigolyn.
Yr elfen allweddol wrth brofi gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd yn dangos bod y gwahaniaethwr yn gwybod ( yn ymwybodol neu'n anymwybodol ) mai'r rheswm dros y driniaeth anffafriol yn codi mewn cysylltiad â anabledd sydd gan y person anabl a bod hyn yn ffactor perthnasol yn eu penderfyniad i drin person yn anffafriol .
Gall y defnydd o'r ymadrodd "rhywbeth sy'n deillio o ganlyniad i anabledd" yn cael eu cymryd yn llythrennol . Mae dim ond rhaid cael rhywfaint o gysylltiad rhwng y rheswm dros y driniaeth ac anabledd y person. Gallai hynny cysylltiad cynnwys unrhyw beth sef y canlyniad, effaith neu ganlyniad o anabledd person anabl. Gallai'r canlyniadau fod yn amrywiol a bydd yn dibynnu ar sut mae’r anabledd yn effeithio arnynt.
Cyfiawnhad gwrthrychol
Fel y nodwyd eisoes gall gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd gael ei gyfiawnhau'n wrthrychol os gall y cyflogwr, darparwr gwasanaethau, darparwr addysg ayyb profi bod y driniaeth anffafriol yn ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon.
Mae’n rhaid i’r nod cyfreithlon tu ôl i'r driniaeth anffafriol fod yn gyfreithiol , ni ddylai fod yn wahaniaethol ynddo'i hun ac mae'n rhaid cynrychioli ystyriaeth go iawn, yn wrthrychol. Gall anghenion busnes rhesymol ac effeithlonrwydd economaidd fod yn nodau cyfreithlon. Fodd bynnag, fydd cyflogwr yn unig anelu at leihau costau yn andebygol o fodloni'r prawf . Gall nod cyfreithlon hefyd yn deillio o ddyletswydd statudol os oes rhaid cydymffurfio â nhw.
Hyd yn oed os mai'r nod yn cyfreithlon , rhaid i'r ffordd o gyflawni'r nod hwnnw yn gymesur. Cyfraith yr UE yn gweld driniaeth fel gymesur os yw'n ‘ffordd briodol ac angenrheidiol ' o gyflawni nod cyfreithlon. Nid yw 'angenrheidiol' yn golygu bod y ddarpariaeth , maen prawf neu arfer yw'r unig ffordd bosibl o gyflawni'r nod cyfreithlon , mae'n ddigon na allai'r un nod yn cael ei gyflawni trwy ffyrdd llai gwahaniaethol.
Penderfynu a yw'r ffyrdd a ddefnyddir i gyrraedd y nod cyfreithlon yn gymesur yn golygu ymarfer cydbwyso .
Mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol (gweler yr adran ar y wefan sy'n ymwneud â'r ddyletswydd hon am ragor o wybodaeth ) hefyd yn berthnasol i'r cwestiwn a gall gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd ei gyfiawnhau'n wrthrychol .
Pan fydd cyflogwr , darparwr gwasanaeth , darparwr addysg ayyb wedi methu â gwneud addasiad rhesymol a fyddai wedi atal neu leihau y driniaeth anffafriol , gall fod yn anodd iddynt ddangos bod y driniaeth anffafriol yn cael ei gyfiawnhau yn wrthrychol .Enghreifftiau:
- Mae cyflogai efo nam ar y golwg wedi cael ei ddiswyddo oherwydd na all wneud cymaint o waith a cydweithiwr nad yw'n anabl . Os yw'r cyflogwr yn ceisio cyfiawnhau y diswyddo , byddai angen iddo ddangos ei fod yn ffordd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon . (Deddf Cydraddoldeb 2010 , Nodiadau Esboniadol )
- Mae'r trwyddedai tafarn yn gwrthod rhoi gwasanaeth i unigolyn sydd â pharlys cerebrol oherwydd ei bod yn credu ei fod yn feddw gan ei fod wedi siarad yn aneglur . Fodd bynnag, mae'r lleferydd aneglur yn ganlyniad o ei anabledd. Os yw'r trwyddedai yn gallu dangos nad yn gwybod, ac na ellid fod yn rhesymol i ddisgwyl iddo wybod, bod y cwsmer yn anabl , nid yw wedi ei dioddef gwahaniaethu yn deillio o ei anabledd . (Deddf Cydraddoldeb 2010 , Nodiadau Esboniadol )
- Fodd bynnag , yn yr enghraifft uchod, os byddai person rhesymol yn gwybod bod yr ymddygiad yn ganlyniad i anabledd , mae'r trwyddedai fyddai wedi darostwng y cwsmer i wahaniaethu sy'n deillio o'i anabledd , oni bai y gallai hi ddangos bod bwrw ei allan yn ffordd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon . (Deddf Cydraddoldeb 2010 , Nodiadau Esboniadol).
-
Mae’r ddyletswydd yn gofyn i gyflogwyr, darparwyr gwasanaeth, darparwyr addysg a.y.y.b. i wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl sydd wedi eu rhoi dan anfantais sylweddol oherwydd eu hanabledd.
Mae’r ddyletswydd yn bodoli os bydd:-
- Darpariaeth, safon neu ymarfer (DSY); neu
- Nodwedd ffisegol; neu
- Diffyg darpariaeth gwasanaeth neu gymorth ategol
Yn gosod person anabl dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.
Mae ystyr sylweddol yr un fath a’i ystyr lle mae'r term yn cael ei ddefnyddio yn y diffiniad o anabledd; mae'n golygu mwy na mân neu ddibwys. Bydd a yw person anabl yn cael ei roi o dan anfantais sylweddol yn dibynnu ar y ffeithiau a bydd yn amrywio o achos i achos.Mae'n bwysig i beidio anghofio am yr angen i nodi cymharydd mewn achosion addasiad rhesymol. Mae cyfraith achos yn awgrymu y dylai'r gymhariaeth mewn achosion addasiad rhesymol gael ei wneud gyda pherson sydd ddim yn anabl yn yr un amgylchiadau, neu rai tebyg. Pwrpas sefydlu cymharydd yw sefydlu ei fod mewn gwirionedd oherwydd anabledd fod y person anabl dan anfantais, ac nid oherwydd ryw reswm arall sydd ddim yn gysylltiedig ag anabledd.
Darpariaeth, Safon neu Ymarfer
Dylai'r diffiniad o'r hyn sy’n gyfystyr â DSY, yn gyffredinol, gael ystyr eang. Gallai darpariaeth fod yn amod neu ofyniad megis term cytundebol ffurfiol; gallai fod yn bolisïau sydd dim yn gytundebol; neu gallai fod yn rheolau a chanllawiau cyffredinol.
Gallai safon fod yn fanyleb swydd sydd yn cael ei ddefnyddio wrth recriwtio neu i wneud penderfyniadau ynglŷn â hyrwyddiadau neu fonysau; gallai fod yn ffactorau a ddefnyddir wrth benderfynu a ddylid disgyblu neu ddiswyddo cyflogeion. Yn syml, safon sy'n cael ei defnyddio ar gyfer bawb dan sylw.
Mae ymarfer yn fwy anffurfiol a gall gynnwys pob un o'r uchod lle nad yw'r darpariaethau a'r safonau wedi cael eu gosod i lawr yn ffurfiol; gallai fod yn benderfyniad unwaith ac am byth neu benderfyniad yn dibynnu ar ddisgresiwn, a gall gynnwys penderfyniadau i wneud rhywbeth yn y dyfodol.Enghraifft: Mae gan gyflogwr bolisi bod mannau parcio dynodedig ond yn cael eu cynnig i uwch reolwyr. Mae gweithiwr sydd ddim yn rheolwr, ond hefo nam symudedd ac sydd angen parcio'n agos iawn i'r swyddfa, yn derbyn man parcio dynodedig. Mae hyn yn debygol o fod yn addasiad rhesymol i bolisi parcio ceir y cyflogwr.
Cymorth neu Wasanaeth Ategol
Ystyr cymorth ategol yw rhywbeth sy'n darparu cefnogaeth neu gymorth i berson anabl ac y gallai fod, er enghraifft, yn fysellfwrdd wedi'i addasu, rhyw fath o feddalwedd adnabod llais i helpu hefo defnyddio cyfrifiadur neu dolen glywed mewn siop. Mae ystyr cymorth ategol yn cynnwys gwasanaethau ategol. Gallai gwasanaeth ategol gynnwys, er enghraifft, cyfieithydd iaith arwyddion neu weithiwr cymorth.
Engraifft: Mae person gyda anableddau dysgu a namau symudedd angen symud i adeilad mwy hygyrch. Mae cynllun gosod seiliedig-ar-ddewis yr awdurdod lleol yn hysbysebu eiddo mewn papur wythnosol ar gael i bobl â gwahanol gategorïau o angen a aseswyd. Mae'r eiddo yn cael eu dyrannu ar said “cyntaf i'r felin”. Mae'r awdurdod lleol yn cytuno gyda'r person anabl y byddant yn dyrannu aelod o staff i ddarparu cymorth angenrheidiol i'w alluogi i gael mynediad cyfartal i’w ddewis o dai. Mae hyn yn debygol o fod yn gam rhesymol i'r awdurdod lleol orfod ei gymryd. (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cod Ymarfer)
Nodwedd Ffisegol
Diffinir nodwedd ffisegol yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) fel a ganlyn: -
- nodwedd sy'n deillio o gynllun neu adeiladwaith adeilad;
- nodwedd o'r ffordd tuag at, allanfa o neu fynediad i adeilad;
- gosodyn neu nodwedd, neu ddodrefn, deunyddiau, offer neu eiddo arall, i fewn neu ar eiddo; neu
- unrhyw elfen neu ansawdd ffisegol arall
Mae'r ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol mewn perthynas â nodweddion ffisegol yn ei gwneud yn ofynnol i gymryd y camau hynny y mae'n rhesymol i’w cymryd i: -
- gael gwared o’r nodwedd ffisegol;
- newid y nodwedd ffisegol, neu
- darparu modd rhesymol o osgoi'r nodwedd ffisegol
Bydd nodweddion ffisegol yn cynnwys stepiau, grisiau, cyrbau, arwynebau allanol a phalmant, mannau parcio, mynedfeydd ac allanfeydd adeiladau (gan gynnwys llwybrau dianc mewn argyfwng), drysau mewnol ac allanol, gatiau, toiledau a chyfleusterau ymolchi, golau ac awyru, lifftiau a grisiau symudol, gorchuddion llawr, arwyddion, dodrefn ac eitemau dros dro neu symudol. Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
Enghraifft: Bydd drysau gwydr clir ar ddiwedd coridor yn y gweithle yn cyflwyno perygl i weithiwr â nam ar eu golwg. Dyma anfantais sylweddol a achosir gan nodweddion ffisegol y gweithle.
A yw'n rhesymol i'r addasiad gael ei wneud?
Mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau yn gofyn i gyflogwyr, darparwyr gwasanaeth, darparwyr addysg a.y.y.b. i gymryd yr holl camau sydd yn rhesymol i'w cymryd, yn holl amgylchiadau'r achos, er mwyn osgoi’r anfantais sylweddol.
Mae'n bwysig nodi nad yw'n bosibl i gyfiawnhau methiant i wneud addasiad rhesymol yn wrthrychol. Mewn achosion addasiad rhesymol, mae'r cwestiwn a yw cyflogwr, darparwr gwasanaeth, darparwr addysg a.y.y.b. wedi gweithredu yn anghyfreithlon yn dibynnu os oedd yn rhesymol i wneud addasiad. Os nad oedd yn rhesymol, yna nid oes gwahaniaethu wedi digwydd. Os oedd yn rhesymol, yna byddant wedi torri'r Ddeddf.
Y mater allweddol felly yw a yw'n rhesymol i wneud yr addasiad neu beidio, bydd dadansoddiad o rhesymoldeb addasiad penodol yn gofyn ystyried sawl ffactor, megis: -
- a fyddai cymryd unrhyw gamau penodol yn effeithiol i atal yr anfantais sylweddol;
- ymarferoldeb y cam;
- y costau ariannol ac eraill o wneud yr addasiad;
- maint unrhyw aflonyddwch a achosir;
- maint adnoddau ariannol neu adnoddau eraill y darparwr gwasanaeth, darparwr addysg, cyflogwr ac ati;
- argaeledd cymorth ariannol neu gymorth arall i helpu i wneud yr addasiad y cyflogwr, darparwr gwasanaethau, darparwr addysg ac ati
- math a maint y cyflogwr, darparwr gwasanaethau, darparwr addysg ac ati
Dylid nodi, fodd bynnag, nad oes gan gyflogwyr, darparwyr gwasanaeth, darparwyr addysg a.y.y.b. y hawl i ofyn i berson anabl dalu i unrhyw raddau tuag at eu costau o gydymffurfio â'r ddyletswydd.
Engraifft: Mae cwsmeriaid mewn Swyddfa Bost brysur yn cael eu gweini wrth gownter ar ôl ciwio mewn llinell. Mae cwsmer anabl yn dymuno prynu disg dreth cerbyd. Nid yw'n gallu ciwio gan fod sefyll am ychydig funudau yn achosi poen helaeth iddo. Mae polisi ciwio yn y Swyddfa Bost yn rhoi'r cwsmer anabl o dan anfantais sylweddol. Byddai'n rhaid rhoi ystyriaeth i sut y gallai'r polisi ciwio gael ei addasu er mwyn darparu ar gyfer gofynion cwsmeriaid anabl.
Yn dibynnu ar faint y Swyddfa'r Post, gallai staff ofyn i'r cwsmer gymeryd sedd ac yna delio gydag ef yn yr un modd fel pe bai wedi ciwio. Fel arall, gallai ddarparu desg wasanaeth ar wahân gyda seddau ar gyfer cwsmeriaid anabl.
Ffactorau sector benodol sy’n berthnasol i'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
Gwasanaethau
Mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol mewn achosion gwasanaethau yn ddyletswydd ddisgwylgar. Mae'r ddyletswydd yn ddyledus i bobl anabl yn gyffredinol a dylai darparwyr gwasanaethau cyn belled ag y bo modd ragweld anghenion cwsmeriaid anabl.
Mewn achosion gwasanaeth yr egwyddor allweddol y tu ôl i’r dyletswydd, yn enwedig mewn perthynas ag achosion lle mae nodweddion ffisegol y gwasanaeth yn rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol, yw darparu mynediad i'r gwasanaeth mor agos ag y mae'n bosibl yn rhesymol i cyrraedd y safon a gynigir fel arfer i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Fodd bynnag, ni fyddai angen i ddarparwr gwasanaeth wneud addasiad rhesymol a fyddai'n newid yn sylfaenol: -
- natur y gwasanaeth, neu
- natur masnach neu broffesiwn y darparwyr gwasanaeth.
O ran gwasanaethau cludiant, megis teithio ar fysiau, trenau ac ati, yna nid oes unrhyw ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol o ran y canlynol: -
- newid neu gael gwared ar nodwedd ffisegol cerbyd a ddefnyddir wrth ddarparu'r gwasanaeth;
- unrhyw beth sy'n effeithio a yw cerbydau yn cael eu darparu;
- unrhyw beth sy'n effeithio ar ba gerbydau sydd yn cael eu darparu;
- unrhyw beth sy'n effeithio ar yr hyn sy'n digwydd yn y cerbyd tra bod rhywun yn teithio ynddo
(Er hyn, nid yw’r ffactorau uchod yn berthnasol i a ddylai dull rhesymol arall o ddarparu'r gwasanaeth cael ei fabwysiadu gan ddarparwr gwasanaeth cludiant).
Swyddogaethau Cyhoeddus
Mae'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol mewn achosion sy'n ymwneud â gweithredu swyddogaeth gyhoeddus yn ddyletswydd ddisgwylgar. Mae'r ddyletswydd yn ddyledus i bobl anabl yn gyffredinol a chyn belled ag y bo modd dylai anghenion pobl anabl yn cael eu rhagweld.
Mewn achosion swyddogaeth gyhoeddus mae gan y term anfantais sylweddol ystyr gwahanol i fwy na mân neu ddibwys. Wrth ystyried a yw person anabl dan anfantais sylweddol yn y gweithredu o swyddogaeth gyhoeddus oherwydd DSY, nodwedd ffisegol neu ddiffyg cymorth neu wasanaeth ategol yna bydd anfantais sylweddol yn cael ei gymryd i olygu: -
- cael eu rhoi o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â derbyn budd-dal, lle mae gweithredu y swyddogaeth gyhoeddus yn cynnwys rhoi budd-dal; neu
- dioddef profiad afresymol o niweidiol wrth dioddef anfantais, os yw person yn, neu y gallai, gael eu darostwng i niwed yn y gweithredu o swyddogaeth gyhoeddus
Adeiliadau/Eiddo
Nid oes dyletswydd ar reolwr adeilad i wneud addasiadau rhesymol i nodweddion ffisegol adeiladau, sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd cyffredin neu gymunedol yr adeilad. Fodd bynnag, tra does dim dyletswydd ar bod reolwr adeilad i dynnu neu osgoi nodweddion ffisegol yr adeilad, o dan amgylchiadau lle fydd telerau'r gosodiad yn gwahardd tenant rhag gwneud addasiadau o'r fath, byddai'n cael ei ystyried yn rhesymol i'r rheolwr eiddo ddiwygio'r telerau er mwyn caniatau’r tenant i wneud newidiadau ffisegol eu hunain ac ar eu cost eu hunain.
Yn ogystal, ac yn dibynnu ar y math a natur y denantiaeth, mae'r Ddeddf a cyfraith tai yn cynnwys darpariaethau sy'n golygu na all reolwr adeilad wrthod eu caniatâd yn afresymol i ganiatau i denant wneud newid ffisegol i'r eiddo ar eu cost eu hunain.
Gwaith
O dan ddarpariaethau gwaith y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 nid yw'r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol os nad yw'n hysbys, ac na ellid yn rhesymol ddisgwyl iddo fod yn hysbys, bod y person o dan sylw yn anabl.
Mae nifer o ffyrdd y gall cyflogwr wneud addasiadau rhesymol er mwyn integreiddio gweithiwr anabl i'r gweithle, er enghraifft, gwneud addasiadau i adeiladau. Gall hyn gynnwys lledu drysau neu symud dodrefn er mwyn darparu ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn.
Enghraifft: Weithiau mae cynghorydd â nam ar eu golwg angen gwneud ymweliadau cartref i gleientiaid. Mae'r cyflogwr yn cyflogi gweithiwr cefnogi i'w chynorthwyo ar yr ymweliadau hyn.
Addysg
Nid oes raid i gorff cyfrifol ysgol wneud addasiad rhesymol i nodweddion ffisegol ei safle.
Nid yw corff llywodraethu sefydliad addysg bellach ac uwch a chyrff cymwysterau cyffredinol o dan ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol i DSY, lle mae’r DSY yn gyfystyr â safon cymhwysedd. Mae safon cymhwysedd yn cael ei ddiffinio yn y Ddeddf fel safon academaidd, feddygol neu safon arall a ddefnyddir i benderfynu a oes gan berson lefel benodol o gymhwysedd neu allu neu beidio.
Rydych wedi dewis eich opsiynau i gyd.
Er mwyn cadw cofnod parhaol o'r wybodaeth yr ydych wedi ddewis, gallwch nawr argraffu'r holl wybodaeth ar gyfer yr opsiynau a ddewiswyd.